Ceredigion
CeredigionOutreachServices@thewallich.net
Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl sy’n aros mewn llety dros dro a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion.
Rydym yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin hyder a datblygu sgiliau bywyd er mwyn i chi allu byw’n annibynnol yn eich cartref eich hun.

Pwy sy’n gymwys?
Pobl sy’n byw yng Ngheredigion sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd mewn llety dros dro drwy Wasanaethau Tai’r Cyngor.
Pa gymorth sydd ar gael?
Rydym yn cefnogi pobl i allu symud i’w llety eu hunain ac i fyw’n annibynnol.
Mae’r gwasanaeth yn hyblyg ac yn seiliedig ar anghenion pob person. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i greu cynllun cymorth, yn seiliedig ar eich nodau.
Mae ein staff yn rhoi cymorth gyda phethau fel:
- Cynllun Tai Personol
- Hawlio budd-daliadau
- Chwilio am eiddo a rhestrau eiddo rhent gwerthwyr tai
- Cysylltu â Gwasanaethau Tai’r Cyngor
- Cyfeirio ac atgyfeirio at wasanaethau cymorth eraill
- Dod o hyd i lety sefydlog