Llety Brys Aberglasney

Ceredigion

Ceredigion

01970 294225

Mae Aberglasney yn darparu llety brys ac asesiad anghenion ar gyfer pobl sy’n ddigartref yng Ngheredigion.

textimgblock-img

Mae 10 ystafell wely gan gynnwys ystafell hygyrch, ystafelloedd ymolchi a rennir, a chyfleusterau coginio. Mae staff yn gweithio yn yr adeilad 24 awr y dydd.

Rydym yn darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai i bobl sy’n aros yn Aberglasne, ac yn eu cefnogi i gael y gallu, yr annibyniaeth, y sgiliau a’r hyder i gael eu cartref eu hunain ac i’w gadw.

Mae hwn yn wasanaeth hyblyg sy’n seiliedig ar anghenion pob unigolyn.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym yn cefnogi preswylwyr gyda’r canlynol:

  • Gwneud cais am fudd-daliadau a datrys problemau yn ymwneud â budd-daliadau
  • Sgiliau cyllidebu
  • Cael gafael ar wasanaethau cyffuriau ac alcohol
  • Cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl a chorfforol
  • Lleihau niwed
  • Help i beidio â mynd yn ôl at hen arferion
  • Chwilio am lety annibynnol

 

Gall preswylwyr yn Aberglasne gael mynediad at y Rhwydwaith Myfyrio ar gyfer cwnsela a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r tîm Llesiant ac Ymgysylltu.

Mae The Wallich yn credu bod pobl sy’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, yn unigolion ag anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol. Yn ôl ymchwil, mae byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn gallu bod yn fanteisiol i adferiad llwyddiannus.

Rydym yn awyddus i ddarparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol o drawma sy’n cysylltu pobl â chymorth addas iddyn nhw.

Pwy sy’n gymwys?

Mae’r gwasanaeth yn agored i bobl 18 oed a hŷn sy’n byw yng Ngheredigion sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac sydd angen cymorth gyda thai.

Mae angen i chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn gan Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.