Ceredigion
CeredigionOutreachServices@thewallich.net
Rydym yn helpu pobl 18 oed a hŷn ledled Ceredigion sydd angen cymorth i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a pharhau i fyw’n annibynnol.
Rydym yn darparu cyngor a chymorth i helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu nodau a byw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartref a’u cymuned. Gall hyn gynnwys sgiliau bywyd a meithrin gwydnwch.

Pwy sy’n gymwys?
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bobl sydd yn:
- 18 oed neu’n hŷn
- Aros yng Ngheredigion
- Digartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, nawr neu yn y dyfodol
- Profi anawsterau tai
Pa gymorth sydd ar gael?
Rydym yn gweithio gyda phobl yn eu cartrefi eu hunain (cartrefi rhent neu gartrefi sy’n eiddo iddyn nhw), yn swyddfeydd The Wallich neu mewn lle arall rydym wedi cytuno arno.
Gall ein staff roi cymorth gyda’r canlynol:
- datrys ôl-ddyledion a dyledion
- cyllidebu a budd-daliadau
- cysylltiadau cyfleustodau
- dechrau tenantiaeth newydd
- sefydlogi a chynnal tenantiaethau
- meithrin gwydnwch
- meithrin hyder
- cael cymorth gan asiantaethau eraill
- cyfeirio at wasanaethau arbenigol a chysylltiadau cymunedol
- helpu i ddeall gohebiaeth, ymateb iddi, a’i rheoli’n annibynnol
Sut mae cael cefnogaeth
Mae angen i chi gael eich cyfeirio at y gwasanaeth hwn gan Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.