Ceredigion
CeredigionOutreachServices@thewallich.net
01970 611 832
Mae ein Gwasanaeth Cymorth Tai Deuluoedd yn cynnig cymorth i deuluoedd sy’n byw mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd tai yng Ngheredigion.
Mae hyn yn cynnwys llety rhent preifat, eiddo’r cyngor neu gymdeithas dai, cartrefi sy’n eiddo i berchen-feddianwyr, a’r rheini heb gyfeiriad sefydlog.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar anghenion pobl.

Y cymorth sydd ar gael i deuluoedd
Rydym yn darparu cymorth ac arweiniad personol ar faterion a allai effeithio ar allu teuluoedd i gadw eu tai. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda:
- budd-daliadau
- cyllidebu
- symud rhwng eiddo
- edrych ar opsiynau tai
- cadw tenantiaethau
Rydym hefyd yn annog y gymuned i fod yn rhan ac rydym yn helpu pobl i edrych ar gyfleoedd ym maes addysg, gwirfoddoli, llesiant, a datblygiad personol.
Sut mae’n gweithio
Rydym yn helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol a gwydnwch, gyda’r nod o leihau cymorth wrth i hyder gynyddu.
Mae teuluoedd yn cael cymysgedd o gymorth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion:
- Cymorth un-i-un yn eich cartref neu mewn lleoliad diogel y cytunir arno. Mae hygyrchedd yn bwysig ac rydym yn gweithio’n hyblyg gyda theuluoedd.
- Sesiynau grŵp ar gyllidebu, sgiliau magu plant, a rheoli’r cartref, wedi’u cyflwyno mewn Canolfannau Teulu neu leoliadau cymunedol.
- Cyfleoedd mentora cymheiriaid, gan ddefnyddio profiad bywyd i roi anogaeth a lleihau unigrwydd.
- Cyfeirio ac eiriolaeth, gan eich cysylltu â gwasanaethau arbenigol fel gwasanaethau cam-drin domestig, iechyd meddwl, neu gymorth i bobl sy’n defnyddio sylweddau.
Hefyd, bydd staff cymorth ar gael yn rhai o ganolfannau teulu’r sir, sy’n golygu y gall pobl gael gafael ar ystod lawn o wasanaethau ar yr un pryd.
Byddwn yn gweithio gyda phobl i ddatblygu cynlluniau cymorth sy’n gosod nodau a chyfrifoldebau clir, ac rydym yn annog teuluoedd i fod yn gyfrifol am gamau gweithredu.
Mae ein hystod o wasanaethau yn galluogi teuluoedd i gael gafael ar gymorth tai ymarferol a chyfleoedd i fod yn fwy gwydn. Mae hyn yn lleihau’r risg o ddigartrefedd ac yn cefnogi annibyniaeth hirdymor.
Sut mae cael help
Gallwch gael eich cyfeirio at y prosiect hwn drwy Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.
