Gwasanaeth Cymorth Tai i Deuluoedd

Chalybeate St, Aberystwyth SY23 1HS

Ceredigion

01970 611 832

Mae ein Gwasanaeth Cymorth Tai Deuluoedd yn cynnig cymorth i deuluoedd sy’n byw mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd tai yng Ngheredigion.

Mae hyn yn cynnwys llety rhent preifat, eiddo’r cyngor neu gymdeithas dai, cartrefi sy’n eiddo i berchen-feddianwyr, a’r rheini heb gyfeiriad sefydlog.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar anghenion pobl.

Y cymorth sydd ar gael i deuluoedd

Rydym yn darparu cymorth ac arweiniad personol ar faterion a allai effeithio ar allu teuluoedd i gadw eu tai. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda:

Rydym hefyd yn annog y gymuned i fod yn rhan ac rydym yn helpu pobl i edrych ar gyfleoedd ym maes addysg, gwirfoddoli, llesiant, a datblygiad personol.

Sut mae’n gweithio

Rydym yn helpu teuluoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol a gwydnwch, gyda’r nod o leihau cymorth wrth i hyder gynyddu.

Mae teuluoedd yn cael cymysgedd o gymorth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion:

Hefyd, bydd staff cymorth ar gael yn rhai o ganolfannau teulu’r sir, sy’n golygu y gall pobl gael gafael ar ystod lawn o wasanaethau ar yr un pryd.

Byddwn yn gweithio gyda phobl i ddatblygu cynlluniau cymorth sy’n gosod nodau a chyfrifoldebau clir, ac rydym yn annog teuluoedd i fod yn gyfrifol am gamau gweithredu.

Mae ein hystod o wasanaethau yn galluogi teuluoedd i gael gafael ar gymorth tai ymarferol a chyfleoedd i fod yn fwy gwydn. Mae hyn yn lleihau’r risg o ddigartrefedd ac yn cefnogi annibyniaeth hirdymor.

Sut mae cael help

Gallwch gael eich cyfeirio at y prosiect hwn drwy Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.

Housing Support Grant logo

Tudalennau cysylltiedig