Ceredigion
CeredigionResidential@thewallich.net
01970 625 022

Mae’n darparu tai â chymorth i bobl 18 oed a hŷn sydd ag anghenion cymhleth.
Mae’r prosiect 5-gwely yn ceisio gweithio gyda’r preswylwyr i’w helpu i leihau gwahanol fathau o niwed sy’n digwydd yn eu bywydau.
Mae hyn yn cynnwys problemau sy’n ymwneud â digartrefedd, defnydd problematig o sylweddau, iechyd meddwl a throseddu dro ar ôl tro.

Gall preswylwyr yn Nhŷ Nesaf gael mynediad at y Rhwydwaith Myfyrio ar gyfer cwnsela a chymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r tîm Llesiant ac Ymgysylltu.
Mae The Wallich yn credu bod pobl sy’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, yn unigolion ag anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol.
Dengys ymchwil bod byw mewn Amgylchedd Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn gallu bod yn fanteisiol i adferiad llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Tŷ Nesaf yng Ngheredigion, sy’n cyfateb pobl â chymorth sy’n addas iddyn nhw.
Gwneir pob atgyfeiriad ar gyfer y prosiect hwn drwy Cyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.
