Pen-y-bont ar Ogwr
BridgendBondBoard@thewallich.net
01656 654 442
Mae’r Bwrdd Bondiau yn rhoi tystysgrifau bondiau ar gyfer cost blaendal ar fflat neu dŷ i’w rentu.
Disgwylir i’r tenant gynilo wedyn er mwyn talu’r bond yn ôl dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae prinder tai cymdeithasol a’r cynnydd ym mhrisiau tai wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n rhentu’n breifat.
Mae taliadau ymlaen llaw yn golygu ei bod yn anodd i lawer o bobl sydd ar incwm isel gael llety i’w rentu’n breifat. Mae’r ffioedd yma’n cynnwys ffioedd asiantaeth, arian bond, a rhent ymlaen llaw.
Gallai hyn oll olygu bod mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.
Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae’r Bwrdd Bondiau yn helpu tenantiaid â’r broses o symud ac adsefydlu. Mae hefyd yn hybu perthnasoedd cadarnhaol gyda landlordiaid lleol.