Caerdydd a'r Fro
ValeFloatingSupport@thewallich.net
01446 243198
Mae ein tîm cymorth hyblyg yn helpu ac yn grymuso pobl i fynd i’r afael ag anawsterau tai a/neu bersonol, meithrin sgiliau a rhoi hwb i’ch hyder yn y pen draw i wella eich gallu i gynnal llety ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae Cefnogaeth Hyblyg y Fro yn cynnig cefnogaeth a chymorth i bobl yn eu cartrefi neu yn y gymuned – pa un bynnag sy’n addas i’r person.
Ni fydd y gefnogaeth a ddarperir yn creu nac yn cynyddu dibyniaeth.
Bydd yn “gwneud rhywbeth gyda” yn hytrach na “gwneud rhywbeth dros” – er mwyn gwella eich rheolaeth, eich dealltwriaeth a’ch cyfranogiad yn y materion sy’n effeithio ar eich nodau personol.
Caiff gweithiwr cefnogi ei neilltuo i bob defnyddiwr gwasanaeth, a fydd yn gallu helpu gyda’r canlynol:
Daw pob atgyfeiriad drwy’r Tîm Cefnogi Pobl lleol ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau statudol a chymunedol ar draws Bro Morgannwg.