Caerdydd a'r Fro
croes.ffin@thewallich.net
01446 749 365
Mae’n ofynnol i’r preswylwyr fod wedi ymwrthod â chyffuriau anghyfreithlon ac alcohol am o leiaf chwe wythnos cyn dod i wasanaeth Croes Ffin.
Dylent hefyd fod wedi dadwenwyno neu ddilyn rhaglen adsefydlu yn ddiweddar a dylent fod yn parhau â rhaglen driniaeth bellach er mwyn ymwrthod â sylweddau.
Mae’r staff yn gweithio gyda’r preswylwyr i’w helpu i ddal i ymwrthod a thrwy hynny eu paratoi i symud ymlaen i lety priodol a chychwyn bywyd newydd.
Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Croes Ffin yn y Barri, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.