Wrecsam
01978 353495
Mae Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd Wrecsam yn darparu gwasanaeth allgymorth a chanolfan alw heibio i bobl sy’n byw’n ddigartref ar y stryd yng nghanol y ddinas.
Mae’r tîm yn darparu nwyddau, cefnogaeth a chyngor i bobl sy’n cysgu allan neu sydd mewn cartrefi sy’n eu gwneud yn agored.
Mae staff profiadol yn cefnogi cleientiaid drwy ddarparu
- Cymorth dyngarol ar ffurf brecwast
- Diodydd poeth
- Sachau cysgu
- Dillad cynnes
- Pethau ymolchi a help i ddod o hyd i ddarpariaeth leol arall drwy’r dydd a gyda’r nos

Rydym hefyd yn helpu i ddiwallu anghenion cyfredol drwy gynnig cyngor ar faterion amrywiol a thrwy hwyluso mynediad at y gwasanaethau mwyaf priodol, perthnasol ac arbenigol yn aml.
Bydd hyn yn cynnwys
- Cyngor ar dai
- Atgyfeirio at lety â chymorth
- Cyngor am fudd-daliadau
- Atgyfeirio at ofal iechyd o bob math ac atgyfeirio at ganolfannau camddefnyddio sylweddau
Mae’r ganolfan galw heibio yn darparu amgylchedd diogel oddi ar y stryd i hwyluso’n gwaith cefnogi.
Yma, rydym yn cynnig mynediad at ffôn a chyfrifiadur a help i lenwi ffurflenni, ceisiadadau ac atgyfeiriadau i’n partneriaid mewn cysylltiad â’u hanghenion presennol.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.