Darpariaeth Gwelyau Brys Glanrafon

Glanrafon Centre, Chester Road East, Queensferry, Deeside, CH5 1SA

Sir y Fflint

01244 257749

Mae Darpariaeth Gwelyau Brys Glanrafon yn darparu llety mewn argyfwng 24/7 I bobl sy’n wynebu digartrefedd yn Sir y Fflint.

Glanrafon cabins - The Wallich homelessness and rough sleeping - Queensferry Flintshire - Nightshelter - Accommodation

Mae gan Ddarpariaeth Gwelyau Brys Glanrafon 23 caban annibynnol gyda chyfleusterau

textimgblock-img

Gall y gwasanaethau hefyd ddarparu llety i hyd at dri unigolyn yn y prif adeilad.

Mae gan bob unigolyn ei ystafell ei hun a mynediad at ei ystafell ymolchi ei hun.

Yn gyffredinol, caiff y llety yn y prif adeilad ei ddefnyddio ar gyfer y rheini sydd ag anghenion mwy cymhleth neu a allai fod angen cymorth ychwanegol.

Rhagor o wybodaeth am Ddarpariaeth Gwelyau Brys Glanrafon

Yn ogystal â chynhesrwydd, diogelwch a bwyd, mae’r preswylwyr yn cael mynediad at weithiwr cymorth ac yn cael eu cyfeirio at atebion mwy hirdymor er mwyn iddynt allu dianc o’r strydoedd.

Mae’r cymorth yn cynnwys

Glanrafon

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Darpariaeth Gwelyau Brys Glanrafon yn Sir y Fflint, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

Mae Glanrafon yn cael ei gomisiynu gan Gyngor Sir y Fflint ac mae’r gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan dîm Opsiynau Tai Sir y Fflint.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig