Prosiect Grymuso Carcharorion sy’n cael eu Rhyddhau (PREP) Gwent

12 Hanbury Road Pontypool NP4 6JL

Blaenau Gwent

01495 366 895

Mae Prosiect Grymuso Carcharorion sy’n cael eu Rhyddhau Gwent (PREP) yn darparu cymorth ataliol i bobl ddigartref sydd wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol.

Mae’n gweithredu yn ardaloedd Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy.

Mae’r prosiect yn cefnogi unigolion o Gasnewydd sy’n gadael carchar ac a fydd yn ddigartref o bosibl ar y diwrnod y cânt eu rhyddhau.

Mae’r Gweithiwr Cyswllt PREP yn asesu ac yn gweithio gydag unigolion tra maent yn y ddalfa gyda’r nod o sicrhau llety i’r unigolyn pan fydd yn cael ei ryddhau, a sicrhau na fydd yn ddigartref pan fydd yn gadael y carchar.

Bydd yr unigolyn yn cael ei asesu er mwyn canfod a oes modd iddo ailgysylltu â theulu, a ddylid rhoi blaenoriaeth i unrhyw angen, a oes anghenion penodol o safbwynt iechyd corfforol neu iechyd meddwl neu unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau.

Yna byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol i geisio sicrhau’r llety mwyaf priodol sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys tai sy’n eiddo i’r awdurdod lleol, tai â chymorth, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a’r sector rhentu preifat.

Er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn adsefydlu’n dda ar ôl cael ei ryddhau bydd y Gweithiwr Cyswllt PREP hefyd yn cynnig cyngor ac yn gwneud atgyfeiriadau mewn cysylltiad ag unrhyw anghenion gofal iechyd a materion yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol a allai atal yr unigolyn rhag symud yn llwyddiannus o’r carchar i lety.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig