Gwasanaeth Pobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr

10 Park St, Pen-y-Bont ar Ogwr, CF31 4AX

Pen-y-bont ar Ogwr

01656 655300

Mae Prosiectau Pobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys tri chynllun sy’n darparu llety a chymorth i bobl ifanc ddigartref yn yr ardal

Gwasanaeth Pobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr

Cynllun Pobl Ifanc 16-21

Mae’r cynllun MAC (Anghenion Cymhleth Amlasiantaeth) yn darparu llety â chymorth 24 awr i bum person ifanc digartref sydd rhwng 16 a 21 oed.

Mae gan y bobl ifanc anghenion cymhleth. Gall rhain gynnwys problemau ymddygiad, camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl a hanes o droseddu.

Mae’r staff yn gweithio gyda’r bobl ifanc i roi sylw i’w hanghenion unigol. Maent yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau eraill fel y gwasanaethau prawf, troseddwyr ifanc a chymdeithasol.

Y nod cyffredinol yw ceisio datblygu sgiliau byw’n annibynnol y person ifanc. Rydym yn ei alluogi i gadw’i denantiaeth pan fydd yn symud i’w lety ei hun, ac atal aildroseddu ac achosion o ddigartrefedd yn y dyfodol.

Gwasanaeth Pobl Ifanc 18-21

Mae’r Gwasanaeth Pobl Ifanc 18-21 yn darparu llety â chymorth a rennir a chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Maesteg.

Mae staff ar gael 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos. Rydym yn cefnogi’r bobl ifanc â’u datblygiad personol mewn materion fel:

Mae’r bobl ifanc rydym yn canfod llety iddynt fel arfer yn cael cymorth am hyd at 12 mis. Maent yna yn symud ymlaen i’w cartref eu hunain.

Camwch i lawr

Mae’r cam nesaf, y cyfeirir ato fel ‘Camu i Lawr’, yn wasanaeth symud ymlaen.

Darperir fflatiau sengl, a fflatiau a thai i’w rhannu, i hyd at 20 person ifanc digartref yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr sydd ag anghenion cymorth llai dwys.

Cynigir rhain am hyd at chwe mis fel arfer. Yn aml iawn mae’n cynnig help â datblygiad personol yr unigolyn.

Canolbwyntir yn benodol ar fyw’n annibynnol.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth allgymorth i bobl ifanc ar ôl iddynt symud ymlaen o un o’r tri chynllun i’w llety annibynnol eu hunain.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed. Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel ein prosiectau i bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ymdrechwn i gyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig