Caerdydd a'r Fro
cardiff.hostel@thewallich.net
02920 495 219
Yr hostel hwn, a agorwyd yn 1978, oedd hostel cyntaf Wallich, ac mae’n dal i ddarparu llety a chymorth i bobl sydd ag anghenion amrywiol.
Mae’r holl breswylwyr yn cyfarfod yn rheolaidd â’u gweithiwr cymorth eu hunain a fydd yn:
Mae gan bob preswylydd ei le byw ei hun, ar gyfer preifatrwydd, a chaiff fynediad at ystafelloedd byw cyffredin, er mwyn datblygu ei sgiliau cymdeithasol a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u trefnu.
Mae’r hostel yn cynnwys cyfleusterau golchi dillad, ystafelloedd ymolchi a chawodydd.
Fel y rhan fwyaf o’n hosteli, gallwn dderbyn cŵn er mwyn sicrhau nad yw perchnogion yn cael eu gwahanu oddi wrth eu hanifeiliaid anwes, a all achosi trallod
Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Hostel Syr Julian Hodge yng Nghaerdydd, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.