Hostel Syr Julian Hodge

52 Broadway, Caerdydd CF24 1NG

Caerdydd a'r Fro

02920 495 219

Hostel yng Nghaerdydd yw Hostel Syr Julian Hodge. Mae’n cynnwys 25 ystafell wely ac mae’n darparu lloches a chymorth i bobl sengl ddigartref

Yr hostel hwn, a agorwyd yn 1978, oedd hostel cyntaf Wallich, ac mae’n dal i ddarparu llety a chymorth i bobl sydd ag anghenion amrywiol.

Ein cefnogaeth

Mae’r holl breswylwyr yn cyfarfod yn rheolaidd â’u gweithiwr cymorth eu hunain a fydd yn:

Mae gan bob preswylydd ei le byw ei hun, ar gyfer preifatrwydd, a chaiff fynediad at ystafelloedd byw cyffredin, er mwyn datblygu ei sgiliau cymdeithasol a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u trefnu.

textimgblock-img

Mae’r hostel yn cynnwys cyfleusterau golchi dillad, ystafelloedd ymolchi a chawodydd.

Fel y rhan fwyaf o’n hosteli, gallwn dderbyn cŵn er mwyn sicrhau nad yw perchnogion yn cael eu gwahanu oddi wrth eu hanifeiliaid anwes, a all achosi trallod

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Hostel Syr Julian Hodge yng Nghaerdydd, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

 

Tudalennau cysylltiedig