Pen-y-bont ar Ogwr
bridgendwrsit@thewallich.net
01656 674 184
Mae’r tîm yn darparu nwyddau mawr eu hangen, cymorth a chyngor i bobl sy’n cysgu allan neu sy’n byw mewn llety lle maent yn agored i niwed.
Mae ein staff profiadol yn cefnogi cleientiaid drwy ddarparu brecwast, diodydd poeth, sachau cysgu, dillad cynnes, a phethau ymolchi. Maent yn helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth leol arall drwy’r dydd a gyda’r nos.
Mae’r Tîm Ymyriadau hefyd yn helpu i ddiwallu anghenion presennol. Maent yn cynnig cyngor ar faterion amrywiol a thrwy hwyluso mynediad at y gwasanaethau mwyaf priodol, perthnasol ac arbenigol.
Mae’r tîm hefyd yn rhedeg ein canolfan alw heibio.
Mae’r Tîm Ymyriadau yn darparu amgylchedd diogel oddi ar y stryd i hwyluso ein gwaith cymorth ar ôl i ni weld rhywun yn cysgu allan yn y bore.
Yma, rydym yn cynnig mynediad at ffôn a chyfrifiadur. Hefyd, rhown gymorth i bobl sy’n ddigartref i lenwi ffurflenni, ceisiadau ac atgyfeiriadau at ein partneriaid mewn cysylltiad â’u hanghenion presennol.