Windsor Lodge

15 Mount Pleasant, Abertawe, SA1 1QP

Abertawe

01792 654 001

Mae Winsor Lodge yn cartrefu ac yn cefnogi dynion y mae digartrefedd yn effeithio arnynt yn Abertawe

Service user sitting in bed

Mae’r preswylwyr yn cael cymorth i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol cyn symud ymlaen i dai mwy parhaol.

Mae digartrefedd wedi effeithio ar y bobl sy’n byw gyda ni mewn llety dros dro.

Mae 19 uned yn Windsor Lodge; ac mae gan bob un oergell ac ystafell ymolchi en-suite.

Mae preswylwyr Windsor Lodge yn cael mynediad at lolfa gymunedol, iard awyr agored, cyfleusterau golchi dillad a chegin fawr.

Ein cymorth

Mae gan Windsor Lodge staff 24/7 i sicrhau bod rhoi cymorth i’n preswylwyr ac i’r gymuned leol, yn ogystal â’u cadw yn ddiogel, yn flaenoriaeth bob amser.

Rydym ni’n rhoi to uwch ben unigolion ac yn darparu’r pethau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i symud i mewn, ond mae The Wallich hefyd yn gweithio gyda phobl i osod targedau ar gyfer eu dyfodol.

Rydym ni’n gweithio gyda phobl i nodi pa sgiliau, perthnasoedd a hyder y gallan nhw eu datblygu.

Mae pawb sy’n byw yn Windsor Lodge yn cael mynediad at wasanaethau eraill The Wallich, gan gynnwys ein gwasanaeth cwnsela mewnol, sef Y Rhwydwaith Myfyrio.

Mae staff Windsor Lodge hefyd yn sicrhau bod gweithgareddau trawsnewidiol ar gael i wella llesiant.

textimgblock-img

Mae The Wallich yn credu bod pobl ddigartref a phobl sy’n agored i niwed yn unigolion sydd ag anghenion amrywiol o ran pa gymorth sydd eu hangen arnynt.

Mae wedi ei brofi bod byw mewn Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn gallu bod yn fanteisiol i adferiad llwyddiannus.

Rydym ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Windsor Lodge yn Abertawe, a darparu cymorth sy’n gweddu i anghenion unigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i gael gwybodaeth atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig