£5,000 gan ScottishPower i godi arian i hosteli Wrecsam

16 Feb 2023

Bydd dau o breswylfeydd The Wallich yn elwa o rodd mawr gan y cwmni ynni

Mae gan The Wallich tri o eiddo preswyl yn Wrecsam sy’n cynnig llety diogel a dros dro i bobl sy’n wynebu digartrefedd.

Ar draws y tri eiddo, mae The Wallich yn cynnig 22 o welyau i bobl sy’n ddigartref. Mae gan bob eiddo ystafell ymolchi a chyfleusterau cegin a rennir, ac mae gan bob preswylydd fynediad i weithiwr cymorth.

Mae The Wallich yn cefnogi gweithwyr i helpu preswylwyr i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol sydd eu hangen i gynnal tenantiaeth a chael mynediad i wasanaethau eraill megis gofal iechyd, budd-daliadau, hyfforddiant ac addysg.

Sut bydd y rhodd yn cael ei wario

Wrth i gostau nwyddau bob dydd gynyddu, mae pawb yn gorfod gwario’n gallach. Rhoddir gwerth £100 o dalebion ASDA neu Primark i bob preswylydd yn y ddau hostel.

Bydd y talebion yn cael eu gwario yn ystod sesiwn gyda’u gweithiwr cymorth. Byddant yn gallu prynu eitemau hanfodol i’w hunain neu brynu eitemau personol i wella eu gofod byw yn yr hostel.

Mae bod ar wahân i gymdeithas yn un o’r rhesymau pam y gall pobl ddigartref ei chael hi’n anodd symud ymlaen.

textimgblock-img

Hyd yn oed y tu mewn i’w cartrefi, gall pobl deimlo’n ynysig os na allant gymryd rhan yn yr un profiadau diwylliannol â phawb arall.

Bydd rhan o’r rhodd yn prynu dau deledu clyfar a thanysgrifiadau Netflix ar gyfer ardaloedd cymunedol yn yr eiddo preswyl.

Y nod yw creu gofod niwtral, mannau normalrwydd a sgwrs achlysurol.

Dywedodd Lauren McIntyre, Tîm Prosiectau Cymdeithasol ac Addysg y Sector ScottishPower,

“Bob blwyddyn, mae gweithwyr ScottishPower yn cael cyfle i roi i elusennau mewn sawl maes.

“Mae’r elusennau hyn yn gwneud gwaith da iawn yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu, felly gobeithio bydd y rhodd hwn yn ategu’r gefnogaeth y mae The Wallich yn ei rhoi.

“Mae gennym weithwyr sy’n byw a gweithio yng Nghymru, felly roedd hi’n bwysig iddyn nhw ein bod ni’n rhoi i elusen leol, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.”

Dywedodd Rebeca Lucy, Cydlynydd Codi Arian The Wallich:

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn o fod wedi cael ein dewis i dderbyn y rhodd caredig hwn gan ScottishPower.

“Gall y gaeaf fod yn adeg anodd bob blwyddyn, ond eleni, mae’r argyfwng costau byw yn faich mawr ar aelwydydd ledled Cymru, gan gynnwys y bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn Wrecsam.

“Bydd y rhodd hwn yn helpu i leddfu’r baich ychydig drwy alluogi ein cleientiaid i brynu eitemau dros eu hunain a’u cartrefi. Diolch eto i ScottishPower a’i weithwyr am roi nôl i’r gymuned.”

textimgblock-img

Mae The Wallich yn gweithio ledled Cymru, mewn 18 o’r 22 o awdurdodau lleol.

Mae’n gweithio gydag o leiaf 7,000 o bobl bob blwyddyn ar dai, camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, lles, cyflogaeth a mwy i helpu i dorri’r cylch digartrefedd.

Mae The Wallich yn credu bod gan bobl sy’n profi digartrefedd a phobl sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref anghenion cymorth amrywiol a gwahanol.

 

Mae tystiolaeth yn dangos bod adferiad llwyddiant yn gallu elwa ar fyw mewn Amgylchedd Deallus o ran Seicoleg (PIE).

Rydym eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n deall trawma a pharu pobl hyd eithaf ein gallu i ddarparu’r cymorth sy’n addas iddyn nhw.

Tudalennau cysylltiedig