Elusen yn penderfynu cynnig taliad untro dewisol i staff, i helpu gyda’r cynnydd mewn costau byw y gaeaf hwn

Mae The Wallich wedi sefydlu Tasglu Costau Byw i weithio ar ffyrdd o leddfu’r pwysau ariannol a ragwelir yn 2022 ar staff a chleientiaid.
Mewn un o nifer o gynlluniau, bydd yr holl staff a gyflogir gan The Wallich ar 31 Hydref 2022 yn cael taliad gan y cynllun.
Mae faint o arian y gallai pob gweithiwr ei gael yn cael ei fandio yn ôl cyflog, gyda’r rhai sy’n ennill y cyflogau isaf yn mynd adref gyda’r swm uchaf.
Roedd staff rhan amser yn cael eu categoreiddio yn ôl y cyflog roedden nhw’n mynd adref gyda nhw, nid ar sail pro rata, a gallai staff a oedd yn teimlo nad oedd angen y taliad arnynt ddewis peidio â chymryd y taliad.
Argyfwng costau byw
Mae chwyddiant yn achosi cynnydd na welwyd ei debyg o’r blaen mewn costau byw yn y DU.
Er enghraifft, dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ddiweddar fod tua 6 o bob 10 (60%) o bobl sy’n rhentu wedi dweud eu bod yn ei chael yn anodd fforddio eu biliau ynni, ac roedd tua 4 o bob 10 (39%) yn ei chael yn anodd fforddio eu taliadau rhent.
Mewn ymateb, prif nodau Tasglu Costau Byw The Wallich yw:
Rhannu gwybodaeth
- Darparu banc adnoddau digidol gyda gwybodaeth, awgrymiadau a dolenni defnyddiol i wefannau dibynadwy
- Cyfathrebu’n rheolaidd â staff a’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi gyda gwybodaeth a diweddariadau allweddol, gan ddefnyddio iaith rwydd a syml
Materion cyhoeddus ac ymgyrchu
- Dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a pholisïau i wneud newidiadau strwythurol ar lefel uwch
Cyllido a phartneriaethau
- Nodi cyfleoedd a fyddai o fudd i’n helusen, ein staff a/neu ein defnyddwyr gwasanaeth er enghraifft, cyfleoedd cyllido, partneriaethau, rhwydweithiau priodol, digwyddiadau gwybodaeth ayb.
Ymgyrchu dros gael mwy o help a diwygio yn y sector
Mae cyflogau yn ein sector yn dibynnu i raddau helaeth ar Grant Cymorth Tai’r llywodraeth a’r broses gomisiynu.
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Cymorth Cymru wedi taflu goleuni ar effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr cymorth tai a digartrefedd rheng flaen yng Nghymru.
Dangosodd tystiolaeth gan dros 720 o weithwyr rheng flaen y pwysau ariannol enfawr maen nhw’n eu hwynebu, wrth iddyn nhw ddarparu cymorth hanfodol i ddegau o filoedd o bobl ledled y wlad.
Gyda’i gilydd, mae sefydliadau ar draws y sector yn mynnu:
- Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllideb y Grant Cymorth Tai ar gyfer 2023/24 fel y gall gweithwyr cymorth tai a digartrefedd gael codiad cyflog i’w helpu gyda’r pwysau costau byw yn y dyfodol.
- Dylai Llywodraeth y DU gymryd camau pellach i leihau prisiau ynni a darparu cymorth ariannol i helpu pobl i ymdopi â chostau ynni yn awr ac yn y dyfodol.
- Dylai Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi gynyddu’r gyfradd milltiroedd i sicrhau nad yw gweithwyr rheng flaen ar eu colled o ganlyniad i ddefnyddio eu car i gyflawni eu dyletswyddau gwaith.