Dathlu 10fed pen-blwydd prosiect cyntaf Tai yn Gyntaf Cymru

11 Sep 2023

Roedd gwasanaeth cyntaf Tai yn Gyntaf Cymru ar Ynys Môn yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed yn 2023

Roedd The Wallich wedi lansio ei wasanaeth Tai yn Gyntaf Ynys Môn ym mis Ebrill 2013.

Er ei fod yn gynllun peilot 12 mis i ddechrau, mae bellach wedi gweithio gyda 330 o bobl ar yr ynys dros y degawd.

Yn 2022, cyhoeddodd Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James, y dyfarnwyd Achrediad Tai yn Gyntaf swyddogol i wasanaeth The Wallich yn Ynys Môn.

Dathlu 10 mlynedd

Ym mis Gorffennaf, cafodd defnyddwyr gwasanaeth, partneriaid y prosiect a staff – sy’n gweithio i’r gwasanaeth ar hyn o bryd a’r rheini sydd wedi gweithio i’r gwasanaeth yn y gorffennol – eu gwahodd i ddathliad anffurfiol.

textimgblock-img

Mae’r gwasanaeth bellach yn Park Mount Llangefni a daeth pawb at ei gilydd i fwynhau bwyd da, cael hwyl yn yr heulwen a rhoi cynnig ar grefftau dan do a chydnabod y cysylltiadau sydd wedi cael eu meithrin, y cartrefi sydd wedi cael eu creu a’r bywydau sydd wedi cael eu gwella gan Tai yn Gyntaf Ynys Môn.

Dywedodd Jo Parry, Rheolwr Gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn The Wallich:

“Mae hi wedi bod yn bleser cael croesawu wynebau cyfarwydd dros y blynyddoedd heddiw. Cerddodd un o’n cleientiaid cyntaf erioed, Alan, drwy’r drws a doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth. Mae’n dal yn y llety wnaethon ni ei helpu i symud i mewn iddo ac mae’n gwneud yn dda iawn.”

Mae Jo wedi gweithio yn y gwasanaeth Tai yn Gyntaf ar yr ynys ers iddo ddechrau yn 2013.

Dywedodd Dan Roebuck, a ddaeth i’r digwyddiad ar ran Tîm Tai Cyngor Sir Ynys Môn,
“Llongyfarchiadau ar 10 mlynedd a gweithio drwy gyfnodau anodd a darparu gwasanaeth gwych, gan edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o ganlyniadau cadarnhaol.”

Roedd Sara Jones, sydd hefyd o Dîm Tai’r awdurdod lleol, hefyd yn llongyfarch The Wallich ar gyflawni 10 mlynedd ar Ynys Môn. Dywedodd, “Rydych chi wedi gwneud gwaith anhygoel dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae wedi bod yn bleser cydweithio â chi o safbwynt y tîm digartrefedd.”

Dros y blynyddoedd, mae Tai yn Gyntaf Ynys Môn wedi cael ei ganmol gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Senedd, ac mae wedi cael ei gefnogi gan y gymuned leol ac wedi ymddangos mewn cyfryngau fel North Wales Chronicle a BBC Radio 4.

Beth yw Tai yn Gyntaf?

Mae Tai yn Gyntaf yn canolbwyntio ar symud pobl sy’n ddigartref yn gyflym i dai annibynnol a pharhaol, ynghyd â chymorth cofleidiol i gynnal y denantiaeth.

Mae’r safbwynt Tai yn Gyntaf yn ystyried bod unrhyw un yn ‘barod am dai’, beth bynnag fo’r heriau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu gyfiawnder troseddol, ar yr amod bod y cymorth cywir ar gael hefyd.

Fel rhan o Achrediad Tai yn Gyntaf Cymru, rhaid i The Wallich lynu wrth egwyddorion Tai yn Gyntaf Cymru.

Yn The Wallich, mae ein cymorth Tai yn Gyntaf sy’n ystyriol o drawma yn cynnwys mynediad at y budd-daliadau priodol, lleihau dyledion neu ôl-ddyledion rhent, deall hawliau a chyfrifoldebau tenantiaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth y model Tai yn Gyntaf i’r rheini sydd ag anghenion sy’n gorgyffwrdd ac nad ydynt yn cael eu diwallu.

Mae’r llywodraeth wedi gofyn i bob awdurdod lleol ystyried a oes angen gwasanaethau o’r fath fel rhan o’u strategaethau Ailgartrefu Cyflym lleol.

Tudalennau cysylltiedig