Diwrnod Digartrefedd y Byd (10 Hydref)

Ailadeiladu bywydau a chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd

09 Oct 2020

Mae Diwrnod Digartrefedd y Byd yn digwydd bob blwyddyn ym mis Hydref

Ddydd Sadwrn 10 Hydref 2020, bydd y byd yn troi ei sylw a’i egni at ddigartrefedd yng nghanol y Coronafeirws.

Mae’r elfen ‘Cartref’ wedi bod yn ganolog i’r pandemig. Gweithio gartref. Dysgu gartref. Aros gartref.

Ond beth am y bobl hynny sydd ddim yn teimlo’n ddiogel gartref, neu’r rheini sydd heb gartref o gwbl?

Yng Nghymru, er bod nifer o gamau cadarnhaol wedi bod i wella digartrefedd eleni, nid yw wedi ei ddatrys.

Nawr, mae rhaid i ni ganolbwyntio ar ddyfodol diogel a chynaliadwy.

Beth mae’r Wallich yn ei wneud?

Ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd 2020, fe fyddwn ni’n lansio ein hymgyrch aeaf flynyddol i godi ymwybyddiaeth ac arian i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Mae ein staff wedi bod yn gweithio’n galed, yn cefnogi mwy na 4,000 o bobl sydd wedi dioddef digartrefedd ers dechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth.

Mewn cyfnod ansicr, mae un peth yn sicr. Rhaid i ni barhau i ymateb i unrhyw un sydd ein hangen.

Beth allwch chi ei wneud ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd

Mae’r byd i gyd wedi gorfod ailasesu ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ddiweddar.

Mae Diwrnod Digartrefedd y Byd yn gyfle gwych i ganolbwyntio ein hegni a helpu i ailadeiladu bywydau a chymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.

P’un ai ydych chi’n codi arian, yn darparu cyfleoedd neu’n addysgu eich hun ar faterion digartrefedd, mae yna lawer o bethau y gall y cyhoedd, cymunedau a phob sy’n gwneud penderfyniadau eu gwneud.

Helpu pobl a chymunedau i ailadeiladu

Y gaeaf hwn, rydyn ni’n gofyn i bobl wneud y canlynol:

textimgblock-img

Ailgysylltu

Dod â’ch cymuned at ei gilydd i roi diwedd ar ddigartrefedd.

Helpu rhywun sy’n dioddef digartrefedd i ailgysylltu â’r gwasanaethau sy’n gallu eu helpu.

Mae’r cyfnod clo ac unigrwydd wedi effeithio ar iechyd meddwl nifer o’n cleientiaid gan nad ydyn nhw’n gallu mynychu’r gweithgareddau ymgysylltu arferol.

Gallai codi £20 brynu deunyddiau celf a chrefft i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar i gleientiaid sy’n teimlo’n ynysig.

Rydyn ni hefyd wedi defnyddio rhoddion i gysylltu pobl â’r rhyngrwyd, a oedd wedi’u heithrio’n ddigidol cyn hynny.

textimgblock-img

Canolbwyntio

Beth allwch chi ei wneud i roi diwedd ar ddigartrefedd?

Rhowch darged ffitrwydd i chi’ch hun, rhowch eich esgidiau rhedeg ymlaen a rhedwch Hanner Marathon Caerdydd i’r Wallich y flwyddyn nesaf. Neu trefnwch ddigwyddiad codi arian rhithiol.

Gallai eich rhodd gael ei ddefnyddio i roi cymorth i newid bywyd rhywun sy’n dioddef o ddigartrefedd.

Er enghraifft, mae £50 yn gallu rhoi mynediad at sesiwn gwnsela therapiwtig i rywun sydd cael pethau’n anodd.

Neu, cysylltwch â’ch Aelod o’r Senedd neu Aelod Seneddol  i ofyn am gadarnhad y bydd digartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

textimgblock-img

Ailadeiladu

Mae cymorth rheolaidd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Helpwch ni i barhau i ailadeiladu bywyd rhywun a rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw symud ymlaen ar ôl digartrefedd.

Mae rhoi yn rheolaidd yn ein helpu i baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae £5 y mis yn cyfrannu at adnoddau sydd â’r gallu i newid bywyd rhywun.

Er enghraifft, gallai £5 y mis brynu eitemau bwyd sylfaenol i rywun sy’n wynebu caledi difrifol, gan wneud yn siŵr fod ganddyn nhw fynediad at brydau rheolaidd.

Ar Ddiwrnod Digartrefedd y Byd 2020, helpwch ni i ailgysylltu pobl sydd heb gartref, â’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ddod o hyd i gartref.

Helpwch ni i ganolbwyntio ein hadnoddau ar y rheini sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan y pandemig.

Helpwch ni i ailadeiladu ein cymunedau ar draws Cymru a rhoi ddiwedd ar ddigartrefedd.

Tudalennau cysylltiedig