Lansio swîp elusen Cwpan y Byd FIFA 2022 i’w lwytho i lawr

07 Nov 2022

Cymerwch ran yn swîp Cwpan y Byd FIFA Qatar 2022 The Wallich i godi arian ar gyfer elusen ddigartrefedd yng Nghymru

textimgblock-img

Rydyn ni’n cyfri’r dyddiau nes y gic gyntaf, a’r gêm agoriadol ddydd Sul 20 Tachwedd, a bydd timau o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i gystadlu am y teitl.

P’un ai a ydych chi’n gefnogwr pêl-droed go iawn neu wedi cael eich dal yng nghyffro’r gystadleuaeth bêl-droed, mae swîp yn ffordd wych o gymryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA Qatar 2022 a chreu bond â phobl yn eich bywyd personol neu’ch gweithle.

Sut i chwarae’r swîp

 Lawrlwythwch swîp Cwpan y Byd 2022 heddiw

Beth sydd gan bêl-droed i’w wneud gyda digartrefedd?

I lawer o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw, o bobl sy’n cysgu allan i breswylwyr yn ein hosteli, mae pêl-droed yn aml yn bwnc bondio.

Mae cicio pêl neu herio naill a’r llall am y sgoriau diweddaraf yn dipyn bach o normalrwydd sy’n torri’r iâ, yn cryfhau perthynas pobl â’i gilydd, ac yn helpu pobl i deimlo eu bod yn perthyn i gymuned unwaith eto.

Fel sefydliad sydd wedi cefnogi Cwpan y Byd y Digartref ac a ddaeth yn un o noddwyr Pêl-droed Stryd Cymru yn ddiweddar, rydyn ni’n gwybod sut gall pêl-droed helpu pobl ddigartref gyda’u hiechyd meddwl, eu hyder a’u sgiliau.

Pam ddylai cefnogwyr Cymru chwarae ein swîp?

Mae The Wallich yn cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd 2022. Mae’n foment hanesyddol, ar ôl i garfan Cymru ddisgwyl 64 mlynedd, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y twrnamaint yn dod â llawenydd i bawb rydyn ni’n eu cefnogi ac yn gweithio gyda nhw.

O weld Cymru’n chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd neu ar y Cae Ras ar ddiwrnod gêm, rydyn ni wedi gweld drosom ni ein hunain y galon a’r angerdd a ddangosir gan gefnogwyr Cymru a’r Wal Goch.

Y galon a’r angerdd hwnnw yw’r union beth sydd ei angen arnom i helpu i ddangos i bobl sy’n ddigartref nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain, ac maen nhw’n haeddu teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yng nghymunedau Cymru.

Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cefnogi ymdrechion y tîm rydych chi’n ei ddewis, ni waeth pwy ydyn nhw, gan wybod eich bod chi hefyd yn cefnogi un o’r prif elusennau digartrefedd a chysgu allan i gefnogi pobl sy’n ddigartref.

Gemau Cwpan y Byd Cymru

 Isod, ceir manylion gemau Cymru yn y gemau grŵp.

Cymru v UDA
Dydd Llun 21 Tachwedd, 19:00

Cymru v Iran
Dydd Gwener 25 Tachwedd, 10:00

Cymru v Lloegr
Dydd Mawrth 29 Tachwedd, 19:00

Mae rhagor o fanylion am y rowndiau nesaf ar gael ar-lein.

textimgblock-img

Gofal gyda Gamblo

Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk

Tudalennau cysylltiedig