Ddydd Mercher 23 Tachwedd, rhyddhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei ffigurau blynyddol ar gyfer nifer y bobl a fu farw y llynedd tra’r oeddent yn ddigartref yng Nghymru a Lloegr.
Amcangyfrifwyd bod 741 o bobl wedi marw o ganlyniad i ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr yn ôl cofrestriadau 2021.
Roedd bron i ddau o bob pump o’r marwolaethau a gofnodwyd yn gysylltiedig â gwenwyno drwy gyffuriau yn 2021 (amcangyfrif o 259 o farwolaethau; 35% o’r cyfanswm).
Bu farw 99 o bobl drwy hunanladdiad. Bu farw 71 o bobl yn benodol oherwydd alcohol. Roedd y rhain yn cynrychioli 13.4% a 9.6% o’r holl farwolaethau yn y drefn honno.
Amcangyfrifwyd bod 26 o bobl a fu farw (3.5% o’r cyfanswm) yn bobl a oedd yn ddigartref ac a gafodd y coronafeirws (COVID-19) yn 2021; roedd hyn ddwywaith yn fwy na’r nifer a amcangyfrifwyd yn 2020 (13 marwolaeth).
Yng Nghymru y bu farw tua 40 o’r bobl hynny a fu farw heb gartref.
Dywedodd Amy Lee Pierce, y Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus:
“Mae pob un sy’n marw’n ddigartref yn drasiedi, ac ar ben y cynnydd o 7.7% mewn ffigurau a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, credwn fod y nifer yn debygol o fod yn uwch na’r nifer a gofnodwyd.
“Yn groes i farn y cyhoedd, nid mater wedi ei gyfyngu i’r Nadolig yw digartrefedd, na mater a welir yn y gaeaf yn unig, chwaith. Nid yw pobl yn marw dim ond am ei bod hi’n oer. Mae pobl yn marw drwy gydol y flwyddyn am lu o resymau y gellir eu hatal.
“Ar y lleiaf, mae’r ffigurau’n dangos bod tua 741 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi marw wrth wynebu digartrefedd y llynedd.
“Mae hynny’n 741 o bobl sy’n frawd neu’n chwaer i rywun, yn rhiant neu’n blentyn i rywun, sydd wedi ein gadael ni.
“O un flwyddyn i’r llall, rydyn ni’n gweld yr un rhesymau trasig pam mae pobl ddigartref yn marw cyn eu hamser: hunanladdiad a heriau gyda sylweddau.
“Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni hefyd wedi galaru ar ôl y rhai a fu farw oherwydd COVID nad oedd ganddynt le diogel a pharhaol i’w alw’n gartref.
“Yn yr un modd ag y digwyddodd yn ystod COVID, mae angen ymateb iechyd y cyhoedd i ddigartrefedd, nid ymateb o ran llety yn unig, er mwyn achub bywydau gwerthfawr.
“Dim ond dull gweithredu ledled Cymru sy’n seiliedig ar drawma gan bob llywodraeth, gwasanaeth cyhoeddus a phartner fydd yn arwain at ostyngiad parhaus yn y ffigurau hyn.
“Rhaid i bawb ohonom weithio gyda’n gilydd i atal pob marwolaeth gynnar y mae modd ei hosgoi ymysg pobl sy’n profi digartrefedd, camddefnyddio sylweddau a thrawma.