The Wallich yn ennill Gwobr Inspire! am waith cyfranogi sy’n newid bywydau

27 Sep 2021

The Wallich yn ennill Gwobr Inspire! am waith cyfranogi sy’n newid bywydau

Mae The Wallich wedi ennill gwobr bwysig am ein gwasanaethau dysgu a datblygu yn ystod y pandemig

Er ein bod wedi bod yn gweithio ym maes tai ac yn cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddigartref ers dros 40 mlynedd, mae ein tîm Cyfranogiad a Chynnydd (P&P) hefyd yn creu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth i helpu i dorri’r cylch digartrefedd.

Mae’r tîm Cyfranogiad a Chynnydd yn cynnig pedair rhaglen i helpu defnyddwyr gwasanaeth i gael sgiliau hanfodol a phrofiad gwaith.

  1. Mae prosiect BOSS yn rhaglen cyflogadwyedd a llesiant ar gyfer y rheini sydd â chofnod troseddol yn Ne Cymru

  2. Mae ein cynllun Mentor Cymheiriaid yn ymgysylltu ac yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth

  3. Rhaglen gyflogadwyedd strwythuredig yw WISE

  4. Yn ogystal â rhaglen Celfyddydau Creadigol

Mae The Wallich wedi ennill gwobr ‘Newid Bywyd a Chynnydd’ Inspire! am y gwaith arloesol hwn.

Rydyn ni’n un o 12 enillydd a fydd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Inspire! 2021.

Wedi’u cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Gwobrau Inspire! yn cydnabod y rheini sydd wedi dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes, gan feithrin hyder a datblygu cymunedau bywiog a llwyddiannus.

Cynhaliwyd Gwobrau Inspire! fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, a gynhaliwyd rhwng 21 a 27 Medi eleni.

Beth mae’r tîm cyfranogiad a chynnydd yn ei wneud?

Mae defnyddwyr gwasanaeth blaenorol yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno’r rhaglenni sy’n cael eu cynnal gan y tîm Cyfranogiad a Chynnydd. Mae David Bennett, sy’n rheoli ein Prosiect BOSS, yn dweud bod hyn yn allweddol i lwyddiant y tîm.

“Mae pobl sydd wedi cael profiad o gysgu allan a digartrefedd yn gallu bod yn ddrwgdybus o bobl eraill – yn enwedig pobl mewn swyddi o awdurdod.

“Caiff ein holl raglenni eu cynnal neu eu darparu o leiaf yn rhannol gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd. Rydyn ni’n gweld bod hyn yn helpu i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gwneud iddyn nhw ymddiried ynom ni, ond mae hefyd yn eu hysbrydoli.

“Dyma un o’r rhesymau dros sefydlu’r Cynllun Mentora Cymheiriaid. Ar hyn o bryd rydym yn cyflogi chwe mentor cymheiriaid ledled Cymru.

“Drwy gynnig cefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth gan rywun sydd wedi ‘cerdded yn eu hesgidiau’ ac sy’n deall y rhwystrau sy’n eu hwynebu, rydym wedi gweld cynnydd mewn ymgysylltu cadarnhaol a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth.

“Yn yr un modd, mae Prosiect BOSS yn helpu cleientiaid i ddod o hyd i waith, cwblhau cymwysterau a chael gafael ar wasanaethau cwnsela. Caiff y prosiect ei ddarparu gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o’r system cyfiawnder troseddol

“Mae cyflogi pobl sydd wedi profi digartrefedd neu gysgu allan, neu sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol, yn bwysig iawn i ni. Ar ben hynny, mae’n rhaid i ni arwain drwy esiampl. Mae llawer o stigma a chamddealltwriaeth o hyd ynghylch cyflogi pobl sydd wedi cael y profiadau hyn, ond mae hynny’n golygu bod busnesau’n colli allan ar gronfa dalent gyfoethog.”

textimgblock-img

Stori Danielle

Cwblhaodd Danielle, 39 oed, raglen WISE The Wallich ac mae hefyd wedi cael cefnogaeth gan dîm BOSS.

Dywedodd: “Fe wnaeth The Wallich roi cyfle i mi pan na fyddai neb arall wedi gwneud. Roedden nhw’n gweld fy mhotensial heb gymryd sylw o fy ngorffennol, gan helpu i siapio pwy ydw i heddiw.

“Hoffwn ddiolch o galon i bawb rydw i wedi gweithio gyda nhw. Rydych chi i gyd yn bobl anhygoel, daliwch ati!”

Darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer y dyfodol

Nod The Wallich yw creu cyfleoedd i ddefnyddwyr gwasanaeth ddod o hyd i waith yn gwneud rhywbeth maen nhw’n teimlo’n angerddol yn ei gylch.

Mae rhaglenni fel WISE (Gweithio Mewn Cyflogaeth Gynaliadwy) wedi’u cynllunio i roi’r hyder a’r sgiliau newydd sydd eu hangen arnyn nhw i fynd yn ôl i fyd addysg neu i ddod o hyd i waith.

Ychwanegodd David: “Rydyn ni wedi gweld canlyniadau eithriadol yn deillio o WISE. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 15 o bobl wedi cael swydd sefydlog ar ôl cwblhau’r rhaglen, gydag 11 arall yn chwilio am waith.

“Mae bron i 80 o bobl wedi cael eu cynnwys yn ddigidol neu wedi gwella eu sgiliau cyfrifiadurol ac mae 28 wedi ennill cymwysterau o safon y diwydiant.

“Ond nid dim ond y ‘canlyniadau caled’ hynny sy’n bwysig – mae llawer o fanteision i ddysgu ac mae’r ‘canlyniadau meddal’ yr un mor bwysig. Fel y 44 o bobl sy’n dweud bod ganddynt deimladau gwell o sefydlogrwydd a rheolaeth, a’r 15 sydd wedi gwella eu hiechyd meddwl a llesiant.

“Mae ein rhaglen Celfyddydau Creadigol hefyd yn canolbwyntio ar y manteision hyn. Mae gwreiddio’r celfyddydau creadigol yn ein prosiectau yn creu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ac yn rhoi ffordd i ddefnyddwyr ein gwasanaeth fynegi eu teimladau. Mae hyn yn helpu i leihau’r risg o ymddygiad sy’n niweidio iechyd, ar yr un pryd ag addysgu sgiliau newydd.

“Mae unrhyw un sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd wedi arfer bod yn rhan o ddiwylliant – maen nhw’n gofalu am ei gilydd. Mae dod oddi ar y strydoedd ac i mewn i gartref yn gallu bod yn unig.

“Os ydym am dorri’r cylch digartrefedd, mae angen i’n hatebion fod yn gynaliadwy. Dyna pam mae’r rhaglenni sy’n cael eu rhedeg gan ein tîm Cyfranogiad a Chynnydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer ein cleientiaid.

Inspire - The Wallich, Cardiff 26/08/2021

“Bydd bron pob un o’n cleientiaid wedi profi rhywfaint o drawma yn ystod eu bywydau, felly mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i beidio â sbarduno ac maent yn cael eu darparu gan diwtoriaid sy’n deall trawma.

“Gellir addasu cyrsiau yn dibynnu ar anghenion y grŵp, ac rydym yn casglu adborth rheolaidd i wella’r rhaglenni’n gyson yn unol â’r adborth hwnnw.

“Mae popeth a wnawn ni’n seiliedig ar greu cyfleoedd i bobl sydd wedi bod yn ddigartref neu wedi cysgu allan er mwyn iddyn nhw fyw’r bywyd maen nhw eisiau ei fyw.

“Mae’n anhygoel pan fydd defnyddwyr ein gwasanaeth yn mynd ymlaen i brifysgol, neu swydd, ond nid yw’n ymwneud â hynny’n unig. Mae’r ymdeimlad o gyflawniad a gobaith ar gyfer y dyfodol yr un mor bwysig.”

Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Pa ffordd well i gydnabod gwerth dysgu oedolion na chlywed am straeon ysbrydoledig ein henillwyr yng Ngwobrau Inspire!

“Mae pob un o’n henillwyr yn dangos y manteision y gall dysgu gydol oes eu cynnig – o wella llesiant meddyliol, i ennill y sgiliau i ddod o hyd i swydd newydd.

“Gobeithio y bydd eu straeon anhygoel yn ysbrydoli pobl ledled Cymru i gymryd y cam cyntaf hwnnw’n ôl i fyd addysg.
“Beth bynnag yw eich cymhelliant dros ennill sgiliau newydd, ni fu erioed amser gwell i newid eich stori.”