Fis Hydref 2022, gwnaethom lansio ein hymgyrch codi arian blynyddol dros y gaeaf, a oedd yn canolbwyntio ar gostau byw cynyddol.
Mae llawer yn y DU yn ei chael hi’n anodd mewn rhyw ffordd, fodd bynnag, mae wedi amrywio’n sylweddol. O ganslo eich hoff wasanaeth tanysgrifio, i fethu prydau i sicrhau y gall pawb yn y cartref fwyta, mae profiadau pawb yn wahanol.
Oherwydd hyn, rydym wedi gorfod addasu’r ffordd rydyn ni’n cefnogi pobl. Bellach, rydyn ni’n cefnogi mwy o bobl yn eu cartrefi eu hunain nag erioed o’r blaen.
Yn ogystal â’n cefnogaeth yn newid, roeddem yn gwybod y byddai ein hymgyrch yn anos na’r arfer y gaeaf hwn, oherwydd y costau byw cynyddol.
Rydym wedi cael ein synnu gan y gefnogaeth a ddaeth i law yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Rhoddodd mwy na 500 o bobl yn ystod ein hymgyrch dros y gaeaf, ac rydyn ni’n diolch yn fawr iawn i chi.
Mae pob rhodd, boed yn fach neu’n fawr, yn ein helpu i ddirwyn i ben digartrefedd yng Nghymru.
Mae Dydd Mawrth Rhoi yn fudiad byd-eang blynyddol sy’n annog pobl i wneud pethau da, a chafodd ei gynnal 29 Tachwedd 2022.
Dyma’r tro cyntaf i The Wallich gymryd rhan mewn digwyddiad Dydd Mawrth Rhoi, a’n nod oedd codi £500.
Diolch i chi, gwnaethom lwyddo i fynd yr ail filltir a chodi £915 ffantastig mewn dim ond 24 awr.
Roedd raffl y gaeaf The Wallich yn ffordd rwydd i bobl gefnogi ein hymgyrch dros y gaeaf, ac roedd prisiau’r tocynnau’n dechrau ar £2.
Ymhlith y gwobrau oedd pryd tri chwrs a choctêls i ddau ym mwyty London Steakhouse Marco Pierre White, taith i dop adeilad The Shard, taleb Love2Shop gwerth £150, 2 docyn bws i gyrchfan ac o gyrchfan gan FlixBus, a llawer mwy.
Gyda chymorth ein gwerthwyr cymunedol ffantastig, gwnaethom werthu 936 o docynnau raffl, gan godi £1,872.
Ni allwn ddatrys digartrefedd ar ein pennau ein hunain, mae angen ymateb cymunedol.
Rydyn ni’n ffodus o fod wedi cael cefnogaeth ffantastig gan grwpiau cymunedol ledled Cymru yn ystod ein hymgyrch dros y gaeaf.
Mae llawer iawn o enghreifftiau, ond dyma rai o’r cymunedau sydd wedi’n cefnogi ni eleni:
Gwnaethom gynnal swîp Cwpan y Byd i ddathlu bod Cymru’n rhan o’r gystadleuaeth. Diolch yn fawr iawn i’r holl gefnogwyr pêl-droed a wnaeth gymryd rhan.
Cynhaliodd sesiynau cerddoriaeth Saint Ffraid ddigwyddiad Cracyr ‘Dolig yng Nghaergybi, ble ddaeth bandiau a thryciau bwyd lleol at ei gilydd i gynnal digwyddiad anhygoel. Llwyddwyd i godi £562 ar y noson
Diolch i Gymdeithas Gymunedol Llyswyrni a wnaeth godi £220 yn ystod eu sesiynau carolau Nadoligaidd.
Llwyddodd yr hyfryd Cardiff Canton Singers i godi swm gwych yn canu mewn tafarndai ledled Pontcanna yn ystod mis Rhagfyr.
Diolch o galon i Ysgol Gyfun Sir Fynwy am roddi eitemau ar gyfer un o’n prosiectau Casnewydd – gwnaeth hyn wahaniaeth fawr i bobl a oedd yn profi digartrefedd dros y Nadolig.
Diolch i Seren, a wnaeth godi £100 ar ran The Wallich drwy gynnal digwyddiad gwerthu cacennau yn ei hysgol. Gwnaeth a gwerthodd swm aruthrol o 175 mewn 15 munud – seren y byd pobi i’r dyfodol.
Diolch i Holy Trinity, Aberaeron, a wnaeth roi £150.
Diolch i Skanda Vale, a wnaeth roi 65 o hamperi i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi yn Sir Gâr.
Diolch i Eglwys y Bedyddwyr Zion yn Wrecsam, a wnaeth roi £250.
Diolch i Ganolfan Gristnogol Antioch, a wnaeth roi 59 o hamperi i’n cleientiaid yn Sir Gâr.
Mawr yw ein diolch i’r sefydliadau ledled Cymru sydd wedi mynd yr ail filltir i’n helpu ni i atal digartrefedd.
Diolch i Lot11, caffi yn Wrecsam, a wnaeth gymryd rhan ym menter bwydlen letygarwch The Wallich a rhoi 50p o bob Toastie Twrci a werthwyd, gan godi swm ffantastig o £250.
Diolch yn fawr hefyd i’r tîm yn Aventido, a wnaeth gynnal eu digwyddiad tymhorol ’12 AT’s of Christmas’ a wnaeth roi swm hael o £350 i The Wallich.
Roedden ni’n ddigon ffodus o gynnal tri digwyddiad casglu mewn siopau ym Morrisons mewn tri lleoliad. Diolch i siopwyr Morrisons yn Llanelli, Abertawe ac Aberystwyth am fod mor garedig.
Diolch yn fawr i’r tîm caredig iawn ym mwyty/tafarn Y Farmers yng Ngheredigion a wnaeth ddarparu 24 o brydau poeth i’n prosiectau preswyl yn Aberystwyth ar Noswyl Nadolig.
Diolch yn fawr i Tesco yn Aberystwyth am ganiatau i ni gynnal casgliad yn y siop, ac i gymuned Aberystwyth am roi croeso mor gynnes i The Wallich.
Diolch yn fawr iawn i’r Stable yng Nghaerdydd am gymryd rhan ym menter bwydlenni lletygarwch The Wallich a rhoi 50c am bob pizza Festive Full Monty a werthwyd. Roedden nhw wedi gwerthu 467 pizza, gan godi’r swm anhygoel o £233.50
Rhoddodd Avo, caffi-bar yn Llanelli, 20 o brydau Nadolig ffres wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’n cleientiaid a fyddai fel arall wedi mynd heb ginio Nadolig.
Diolch i Sefydliad Asda yn Llangefni a wnaeth roi swm hael o £500 i’n Prosiect Tai yn Gyntaf a Stepping Stones ar Ynys Môn.
Diolch yn fawr i Scout Coffee Roasters, o Gasnewydd, am roi swm o’u helw o’u coffi tymhorol – Festive Blend.
Diolch i CDS Security LTD a wnaeth roi 26 o brydau Nadolig i’n defnyddwyr gwasanaeth yn Llanelli.
“Diolch i bawb a wnaeth roi dros y gaeaf hwn.
“Mae’r argyfwng costau byw wedi rhoi pwysau sylweddol ar y bobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd a’r rhai digartref yng Nghymru.
Yn y cyfnod sydd ohoni, lle mae pawb yn ei chael hi’n anodd, mae gweld ymateb cymunedol mor gryf i ddigartrefedd yn ysbrydoledig. Diolch yn fawr, bawb!”
Er bod ein hymgyrch blynyddol dros y gaeaf wedi dod i ben, gallwch barhau i gefnogi The Wallich.
Nid yw digartrefedd yn dod i ben ar ddiwedd tymor y gaeaf.
Mae The Wallich ar gael i bobl 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a byddant yn parhau cyn belled ag sydd angen.
Cefnogwch The Wallich a helpwch ni i ddirwyn i ben digartrefedd yng Nghymru.