Mae’r argyfwng costau byw yn creu mwy o risg o ddigartrefedd a mwy o alw am gymorth brys.
Mae cartrefi ledled y Deyrnas Unedig eisoes yn teimlo effeithiau dychrynllyd yr argyfwng, gyda llawer o aelwydydd incwm isel yn cael eu gorfodi i fynd heb hanfodion.
Mae hyn yn golygu bod natur y cymorth sydd ei angen ar bobl gennym yn newid.
Mae The Wallich yn cynorthwyo mwy na 7,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn i gyfyngu ar drawma digartrefedd, atal pobl sydd mewn perygl o golli eu cartrefi, mynd i ddyled neu wynebu argyfwng personol.
Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd sefydlu cartref newydd a chynnal tenantiaeth, a dyna pam rydyn ni’n darparu cymorth brys i unigolion a theuluoedd pan fydd arnynt ei angen fwyaf.
Rydyn ni’n dal i gynorthwyo pobl sy’n cysgu allan, ond rydyn ni’n gweld bod mwy o bobl angen help gyda materion tai, iechyd a llesiant yn eu cartrefi.
Mae The Wallich wedi sefydlu Tasglu Costau Byw i weithio ar ffyrdd o leddfu’r pwysau ariannol a ragwelir yn 2022 a 2023.
Mae’r Tasglu yn gweithio ar ffyrdd o leihau caledi ac amddiffyn pobl dros y gaeaf, yn ogystal â gwneud yn siŵr nad yw ein staff yn wynebu risgiau tebyg eu hunain.
Ymunwch â ni y gaeaf hwn i gefnogi unigolion a theuluoedd ledled Cymru, gan helpu gyda biliau, bwyd, eitemau hanfodol i’r cartref, tai, llesiant a mwy.
Mae sawl ffordd y gallwch chi helpu rhywun sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref dros y gaeaf eleni.
P’un ai a ydych chi’n prynu tocyn raffl neu’n addo rhodd, bydd pob cyfraniad, ni waeth pa mor fach ydyw, yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
Cyfraniadau rheolaidd
Gallai rhodd reolaidd helpu rhywun i symud i’w cartref newydd neu ddarparu mynediad at gwnsela drwy ein cynllun Reflections Network arloesol.
Rhodd untro
Gallai rhodd un-tro helpu rhywun i gael yr eitemau hanfodol sydd eu hangen arnynt, pan fydd eu hangen arnynt.
Fodd bynnag, os ydych chi’n ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa i roi mwy, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech roi’n ôl a gwneud rhywfaint o les cymdeithasol.
Rhoddion mwy
Boed fel unigolyn, swyddfa neu grŵp cymunedol, dyma rai targedau codi arian i chi anelu atynt:
Rydyn ni’n gwybod bod llawer yn teimlo’r wasgfa eleni, felly rydyn ni’n gofyn i bobl roi’r hyn maen nhw’n gallu ei roi eleni i helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd.
Os nad ydych chi’n gallu rhoi rhodd ariannol, rydyn ni’n deall yn iawn, ac mae ffyrdd y gallwch chi helpu heb roi arian.
Gallai gwerthu pedwar llyfr o docynnau (£40) ddarparu gwerth pythefnos o siopa bwyd sylfaenol gan sicrhau nad oes rhaid i unigolion a theuluoedd ddewis rhwng bwyta a gwresogi y gaeaf hwn.
I werthu tocynnau yn eich cymuned, cysylltwch â’n tîm dosomething@thewallich.net | 02921 508 800
Rydym yn deall bod rhoi anrhegion i’ch anwyliaid yn flaenoriaeth y gaeaf hwn.
P’un ai a ydych chi’n siopa yn eich hoff siop ar y stryd fawr, neu fanwerthwr annibynnol, mae siopa drwy Give as You Live yn ffordd hawdd o godi arian i elusen o’ch dewis chi – a hynny heb gost i chi.
Ai drwy Amazon ydych chi’n siopa? Siopwch drwy Amazon Smile.
Yr un cynnyrch, yr un prisiau a’r un gwasanaeth, ond mae’n ffordd o gael rhywbeth da yn ôl gan Amazon.
Mae’n ffordd syml ac awtomatig o gefnogi The Wallich bob tro rydych chi’n siopa, heb gostio ceiniog yn ychwanegol i chi.
Mae digwyddiadau her codi arian yn ffordd wych o gefnogi ein gwaith a gallwch wneud y cyfan wrth gadw’n heini neu wynebu eich ofnau.
Gallwch ymuno â #TeamWallich ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd neu ras 10k Casnewydd, neu os yw’n well gennych chi gynnal digwyddiad her o’ch dewis chi, mae ein tîm codi arian yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.
Mae digartrefedd yn gallu bod yn bwnc cymhleth a dadleuol.
Mae addysgu eich hun a’ch cyfoedion am yr achosion a’r effeithiau hirdymor yn gam gwych i’r cyfeiriad iawn i helpu i leihau stigma digartrefedd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn The Wallich ar gyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion, y polisïau a’r ymgyrchoedd diweddaraf, astudiaethau achos a mwy.
Instagram: @homelessinwales | Facebook: The Wallich
Twitter: @thewallich | LinkedIn: The Wallich
Os ydych chi’n poeni am rywun sy’n cysgu allan, mae StreetLink yn ffordd hawdd ac effeithiol o gymryd camau cadarnhaol.
Gwefan, ap symudol a llinell ffôn yw Streetlink.
Defnyddiwch y gwasanaeth i roi gwybod i awdurdodau lleol a gwasanaethau allgymorth ar strydoedd Cymru a Lloegr am unrhyw un sy’n cysgu allan.
Ar ôl rhoi gwybod i StreetLink, bydd yr wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r gwasanaethau priodol a bydd gweithiwr proffesiynol yn ymweld â’r un sy’n cysgu allan er mwyn ei helpu.
Drwy’r gwasanaeth hwn gall y cyhoedd wneud rhywbeth i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.
Dyma’r cam gyntaf at wneud yn siŵr bod y bobl sydd ar y stryd yn gallu cael eu cysylltu â’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.