Howard Davies (Fe)

Cyfarwyddwr Cyllid

| 02920 668 464
Howard, Cyfarwyddwr Cyllid

 

Ers ymuno â The Wallich ddechrau 2023, mae Howard yn mwynhau gweithio mewn swydd sy’n gyfrifol am y ffordd rydyn ni fel sefydliad yn defnyddio cyllid.

Yn ei swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Cyllid, nod Howard yw:

  • Sicrhau bod yr holl arferion ariannol yn cyd-fynd â chynllun busnes sefydliadol The Wallich
  • Cynnal sicrwydd ariannol The Wallich
  • Cysylltu â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Cyllid er mwyn sicrhau bod strwythurau llywodraethu clir yn bodoli
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd ar draws The Wallich er mwyn cefnogi a diwallu anghenion ariannol pawb
  • Symleiddio systemau ar gyfer ein staff

Yn hytrach na mynd ar drywydd elw, mae Howard yn frwd dros roi’n ôl i gymdeithas.

Oherwydd ei gefndir, mae Howard yn deall pwysigrwydd dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng cael elw a’i ddefnyddio’n effeithiol i helpu i gefnogi pobl.

Mae gan Howard dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar lefel uwch yn y sector gweithgynhyrchu, ynghyd â thair blynedd mewn swydd uwch mewn Cymdeithas Tai.

Bu hefyd yn Drysorydd ac yn Gadeirydd elusen ddigartrefedd arall yng Nghymru.

Mae achrediadau proffesiynol Howard yn cynnwys:

“Mae’n bleser gweithio mewn sefydliad lle mae cefnogi pobl yn un o’r blaenoriaethau, ac i gael fy nghroesawu i ddiwylliant lle mae’r dull gweithredu hwn yn eithriadol o bwysig”

Arbenigedd

  • Rheolaeth ariannol
  • Datblygu busnes
  • Rheoli darbodus
  • Symleiddio prosesau
  • Eiriolwr partneru busnes
  • Modelau twf busnes
  • Rheoli arian parod
  • Rhoi darlithoedd ar gyllid i reolwyr nad ydynt yn arbenigwyr cyllid

Tudalennau cysylltiedig