Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni rhagoriaeth yn ein holl weithgareddau, rydyn ni wedi rhoi Fframwaith Rheoli Ansawdd cadarn ar waith.
Mae hyn yn ein galluogi i gasglu, mesur a gweithredu ar ddata fel mater o drefn er mwyn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf bosibl i fodloni gofynion ein cwsmeriaid.
Rydyn ni hefyd yn cadw’r Marc Elusen Ddibynadwy sy’n helpu i roi arweiniad ar ddull gweithredu systematig o ran ansawdd.
Mae gan holl randdeiliaid The Wallich ddiddordeb brwd mewn gwella ac ehangu’r gwasanaeth a ddarperir drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau ansawdd.
Dyma amcanion yr elusen sy’n sail i’r System Rheoli Ansawdd:
Mae’r holl weithwyr wedi cael gwybod am y polisi ansawdd a’r amcanion ansawdd a gafodd eu mabwysiadu gan y rheolwyr. Dyma’r sylfaen y byddwn yn ei defnyddio i adeiladu gwelliannau parhaus yn ein perfformiad ac yn effeithiolrwydd y Fframwaith Rheoli Ansawdd.
Mae’r System Rheoli a Pholisi Ansawdd yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd i ystyried amgylchiadau newidiol, gofynion cwsmeriaid, amcanion a chyfleoedd i wella.
Prif Weithredwr: Dr Lindsay Cordery-Bruce
Dyddiad: 13 Mawrth 2019