Sicrhau ansawdd

Datganiad Sicrhau Ansawdd

Elusen ddigartrefedd yng Nghaerdydd yw The Wallich ac mae’n darparu gwasanaethau i bobl ddigartref ledled Cymru.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni rhagoriaeth yn ein holl weithgareddau, rydyn ni wedi rhoi Fframwaith Rheoli Ansawdd cadarn ar waith.

Mae hyn yn ein galluogi i gasglu, mesur a gweithredu ar ddata fel mater o drefn er mwyn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf bosibl i fodloni gofynion ein cwsmeriaid.

Rydyn ni hefyd yn cadw’r Marc Elusen Ddibynadwy sy’n helpu i roi arweiniad ar ddull gweithredu systematig o ran ansawdd.

Mae gan holl randdeiliaid The Wallich ddiddordeb brwd mewn gwella ac ehangu’r gwasanaeth a ddarperir drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau ansawdd.

Dyma amcanion yr elusen sy’n sail i’r System Rheoli Ansawdd:

Mae’r holl weithwyr wedi cael gwybod am y polisi ansawdd a’r amcanion ansawdd a gafodd eu mabwysiadu gan y rheolwyr. Dyma’r sylfaen y byddwn yn ei defnyddio i adeiladu gwelliannau parhaus yn ein perfformiad ac yn effeithiolrwydd y Fframwaith Rheoli Ansawdd.

Mae’r System Rheoli a Pholisi Ansawdd yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd i ystyried amgylchiadau newidiol, gofynion cwsmeriaid, amcanion a chyfleoedd i wella.

Prif Weithredwr: Dr Lindsay Cordery-Bruce

Dyddiad: 13 Mawrth 2019