Adroddiad Peilot Rhwydwaith Gwybodaeth Digartrefedd ar y Stryd / Street Homeless Information Network (SHIN)
Mae cywirdeb y data sydd ar gael ar lefelau cysgu allan yng Nghymru wedi bod yn destun pryder ers tro byd. Sefydlwyd y Rhwydwaith Gwybodaeth Digartrefedd ar y Stryd fel system beilot i gasglu data amser real ar lefel unigolion mewn amgylchedd allgymorth dyfal.

Nod y Rhwydwaith Gwybodaeth Digartrefedd ar y Stryd oedd dylunio a gweithredu system Cymru gyfan ar gyfer coladu, glanhau a dadansoddi data amser real ar lefel unigolion am gysgu allan, a fydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac i bartïon eraill sydd â diddordeb.
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r dull a ddefnyddiwyd i goladu’r data ac i brofi’r adnodd casglu data yn y maes, y canfyddiadau allweddol, cipolwg ar safbwyntiau’r rhai dan sylw ac argymhellion ar gyfer datblygu ymarfer yn y dyfodol.