‘Antur ar bresgripsiwn cymdeithasol’ – Astudiaeth mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Gaerhirfryn
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ddull cydnabyddedig gan y GIG o wella iechyd meddwl ac iechyd corfforol.
Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Ways of Mindfulness a Rohan, mae The Wallich yn cynnig gweithgareddau awyr agored sy’n ystyriol o drawma i’w ddefnyddwyr gwasanaeth yng ngogledd Cymru, er mwyn helpu i dorri’r cylch digartrefedd.

Gallai gweithgareddau antur ar bresgripsiwn cymdeithasol gynnwys:
- Heicio
- Ogofa
- Dringo Creigiau
- Caiacio
- Abseilio
- Cerdded mewn mannau gwyrdd
- Gwersylla
- a mwy
Mae llawer o weithgareddau’n hyrwyddo symudiad, yn cyflwyno profiadau newydd a chyffrous, ac yn gwneud defnydd o elfennau yn yr awyr agored.
Ydy presgripsiynu cymdeithasol yn gweithio?
Mae’r astudiaeth hon, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Swydd Gaerhirfryn, yn darparu tystiolaeth bod cynnig gweithgareddau antur mewn cymunedau i bobl y mae digartrefedd a chaledi yn effeithio arnynt yn ffordd o helpu i ddiwallu’r anghenion ymarferol, cymdeithasol ac emosiynol sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.
Daeth yr astudiaeth hon yn sgil cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn rhaglen 10 wythnos gyda The Wallich yng ngogledd Cymru.
Darganfyddiadau nodedig ‘The Wallich: Adventure on social prescription’
Awduron: Edwards-Smith, A., Asghar, A., Akhtar, Z., Malik, N., Jibreel, R.H. a Pywell, S. – Prifysgol Swydd Gaerhirfryn
Yn ystod yr ymchwil hon, nododd cyfranogwyr y rhaglen fod eu llesiant a’u ‘hymdeimlad o’u hunain’ wedi gwella’n sylweddol ers cymryd rhan mewn gweithgareddau antur ar bresgripsiwn cymdeithasol.
Roedd y rhaglen wedi cryfhau perthnasoedd cymdeithasol, hunaniaeth a gobaith ar gyfer y dyfodol.
Roedd cyfranogwyr a’r hwyluswyr yn teimlo fod y rhaglen yn ddefnyddiol er mwyn gwella adferiad ac i leihau’r defnydd o sylweddau.
Gwell llesiant ac ymdeimlad o’r hunan
“Yn ôl y cleientiaid, mae bod allan yn yr awyr agored wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n llai pryderus”
- Cyfranogwyr yn dweud fod ganddynt fwy o hyder, ymreolaeth, a’r gallu i reoli problemau a theimlo’n dda amdanynt eu hunain.
- Gwell hwyliau ac egni, a’r gall i feddwl yn glir ac ymlacio.
- Atgyfeirwyr ac arweinwyr mynydd yn sylwi bod cymryd rhan yn arwain at lai o bryder, ffyrdd iachach o fyw a rheolaeth well dros emosiynau.
- Cyfranogwyr wedi lleihau eu defnydd o gyffuriau neu alcohol, yn ogystal â’u cysylltiad ag ymddygiadau niweidiol eraill.
Perthnasoedd cryfach a newid mewn hunaniaeth
- Roedd y rhaglen wedi meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd cefnogol rhwng cyfoedion, staff ac arweinwyr The Wallich.
- Cyfranogwyr yn teimlo’n llai ynysig.
- Y tu hwnt i’r rhaglen, roedd deinameg y teulu wedi gwella i rai cyfranogwyr.
- Cyfranogwyr yn symud oddi wrth ddefnyddio labeli negyddol amdanyn nhw eu hunain (er enghraifft: “adict”) tuag ddefnyddio geiriau mwy positif fel “rhywun awyr agored”.
- Llawer o aelodau’r grŵp wedi aros yn ffrindiau ac wedi parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
- Mae rhai o aelodau’r grŵp wedi mynd ymlaen i wirfoddoli neu i gael gwaith.
Gobaith, ffocws i’r dyfodol a diffyg llwybrau dilyniant
“Mwy o hyder a chymhelliant am oes.”
- Cyfranogwyr yn dweud bod ganddynt fwy o obaith a diddordeb mewn cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd.
- Arwyddion bod nodau’n canolbwyntio fwy ar y dyfodol, heb unrhyw sôn am besimistiaeth yn ystod y rhaglen.
Dywedodd Samantha Pywell, Arweinydd: Uned Presgripsiynu Cymdeithasol, Canolfan Cysylltedd a Chydweithredu Cymunedol, Prifysgol Swydd Gaerhirfryn:
“Bu ein tîm ymchwil yn gweithio mewn partneriaeth â The Wallich i gydgynhyrchu ymchwil sy’n adlewyrchu eu cylch gwaith.
Mae Antur ar Bresgripsiwn Cymdeithasol yn faes ymarfer effeithiol sydd angen ymchwilio iddo ymhellach.”
Dywedodd Ben Roberts, Mentor Llesiant ac Ymgysylltu yn The Wallich:
“Mae effaith y rhaglen awyr agored yn mynd y tu hwnt i’r 10 wythnos. Heb os nac oni bai, mae’r rhaglen yn sicr yn cynnig manteision i bobl sy’n aml yn teimlo eu bod wedi’u heithrio neu ar eu pen eu hunain.”
“Dro ar ôl tro, rydyn ni wedi gweld pobl sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl yn teimlo’n fwy gobeithiol ac yn fwy cadarnhaol wrth gymryd rhan yn ein gweithgareddau.”
“Gall rhaglenni fel hyn wir gefnogi bywydau pobl, gan roi pwrpas a’r ymdeimlad o gysylltiad sydd ei angen ar bawb.”
Beth nesaf?
Gyda chanlyniadau hynod gadarnhaol i bobl sy’n cael eu cefnogi gan The Wallich, bydd yr elusen yn parhau i ddod o hyd i gyllid ar gyfer gweithgareddau antur at ddibenion presgripsiwn cymdeithasol.
Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn Uwchgynhadledd NatureMind 2026, a gynhelir gan Mind Over Mountains a Phrifysgol Swydd Gaerhirfryn, ar y cyd ag ymarferwyr presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd a llunwyr pholisïau blaenllaw yn y DU.