Mae Prosiect Llety Dros Dro Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth i bobl dros 18 oed
ledled Sir Gaerfyrddin wrth iddynt symud o lety dros dro i gartref parhaol drwy ddarparu cymorth amrywiol yn gysylltiedig â thai.
Mae’r cymorth a gynigir yn cynnwys:
- Cynorthwyo pobl i gael llety cynaliadwy parhaol
- Cymorth i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol
- Cyngor a chymorth i hawlio budd-daliadau/cael yr holl fudd-daliadau y maent yn gymwys iddynt
- Problemau gyda chymdogion
- Cymorth i gael mynediad at weithgareddau cymunedol
- Cyfeirio at wasanaethau eraill i gael cymorth ag anghenion arbenigol
- Hwyluso mynediad at wasanaethau eraill megis gofal iechyd, hyfforddiant neu addysg
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.