Sir Gaerfyrddin
Cath.wilson@thewallich.net
01554 701 800
Gall Tîm Ataliol Cymunedol The Wallich ddarparu cymorth lefel isel sy’n gysylltiedig â thai, gan gynnwys cyngor ar faterion tai, budd-daliadau a mwy i bobl sy’n byw yn ardal Gwendraeth.
Mae ein tîm yn gweithio yn ardal Gwendraeth, Llanelli, gan gefnogi pobl sydd angen cymorth ac arweiniad un-tro neu dymor byr ar faterion tai.
Os ydych chi’n chwilio am gymorth ac yn gweithio yn ardal Gwendraeth (Sir Gaerfyrddin), cysylltwch â’n tîm neu fynychwch ein sesiwn galw heibio.
Ewch i’n canolfan galw heibio yn 2 Heol yr Orsaf, Llanelli.
Amseroedd agor
Dydd Llun – 9:30 – 4:30
Dydd Mercher – 9:30 – 4:30
Dydd Gwener – 9:30 – 4:30
Os oes angen i chi siarad ag aelod o’n tîm pan nad yw ein sesiwn galw heibio ar agor, ffoniwch 01554 701 800.
Mae Gwasanaeth Ataliol Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn rhan o’r gwasanaeth ataliol sy’n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â POBL, Mencap, Adferiad ac Age Cymru.