Ailgartrefu Cyflym Ceredigion

Ceredigion

Ceredigion

Yn y prosiect Ailgartrefu Cyflym, mae’r unigolyn sydd mewn argyfwng yn rhan ganolog o’r cymorth mae’r prosiect yn ei ddarparu.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth dwys a hyblyg i fynd i’r afael yn gyflym â’u hanghenion uniongyrchol mewn argyfwng.

Mae gan bob person yn y prosiect weithiwr cymorth, sy’n gweithio gyda nhw i ganolbwyntio ar feysydd allweddol sy’n eu rhwystro rhag dod o hyd i lety. Gallai hyn gynnwys defnyddio sylweddau, anghenion iechyd meddwl, neu gysylltiadau cymdeithasol.

Mae’r cymorth a roddir yn helpu pobl i fod yn wydn, magu hyder, lleihau niwed, a datblygu’r sgiliau personol a chymdeithasol sydd eu hangen arnyn nhw i gadw eu tenantiaeth.

Ymyriadau Brys

 

Ar gyfer pwy mae hyn?

Mae’r cymorth hwn ar gyfer pobl dros 18 oed yng Ngheredigion nad oes ganddyn nhw fynediad uniongyrchol at lety sefydlog. Mae’n bosibl bod y bobl sy’n cael cymorth gan y gwasanaeth hwn yn wynebu’r sefyllfaoedd canlynol:

Sut beth yw’r cymorth?

Pan fydd person newydd yn cael ei gyflwyno i’r prosiect, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu cynllun ar gyfer cael cymorth a thai. Mae hyn yn canolbwyntio ar annog a chefnogi pobl i wneud eu dewisiadau eu hunain. Rydym yn eu cefnogi i gael eu tenantiaeth eu hunain ac i’w chadw.

Mae’r cymorth yn cynnwys:

Mae The Wallich yn credu bod pobl sy’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, yn unigolion ag anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol. Yn ôl ymchwil, mae byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) yn gallu bod yn fanteisiol i adferiad llwyddiannus.

Rydym yn awyddus i ddarparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol o drawma sy’n cysylltu pobl â chymorth addas iddyn nhw.

Sut mae cael lle

Mae pob atgyfeiriad ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei wneud drwy Gyngor Sir Ceredigion. Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth tai drwy ffonio’r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy anfon e-bost at housingoptions@ceredigion.gov.uk.

Tudalennau cysylltiedig