Stori Lexii

05 Dec 2022

*Mae Lexii yn gofalu am aelodau o’i theulu, ond mae ganddi hefyd anghenion gofal ei hun

O ganlyniad, teimlodd fod bywyd bob dydd a gwneud ffrindiau yn her.

Gyda chefnogaeth gwasanaeth Cefnogaeth Hyblyg Sir Gaerfyrddin The Wallich a Phrosiect Lles Sir Gaerfyrddin, mae Lexii yn magu hyder, yn delio â phethau’n uniongyrchol ac yn gwneud ffrindiau newydd.

Darllenwch ei stori

Bywyd fel gofalwr gydag anghenion gofal

“Fe wnaeth gweithiwr cymdeithasol anabledd fy merch ein cyfeirio at yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, a wnaeth wedyn ein cyfeirio at The Wallich.

Roeddwn i’n cael llawer o drafferth gyda llawer o bethau gwahanol.

Ganed fy ngŵr ag anableddau. Felly, rydw i’n ofalwr iddo’n swyddogol, ond rydw i hefyd yn ofalwr i fy merch sydd ag awtistiaeth ac anableddau dysgu.

Ac mae gan fy mab ADHD. Felly, mae llawer yn digwydd yn ein cartref.

Mae gen i anableddau fy hun, yn ogystal â bod yn ofalwr.

Rydw i’n ‘Ofalwr gydag Anghenion Gofal’ – dyna’r term swyddogol.”

Cael y gefnogaeth iawn

“Roeddwn i’n cael trafferth gyda llawer o bethau gwahanol, ac fe gysylltais â The Wallich i ddechrau er mwyn cael help gyda thai.

Roedden ni wedi symud i mewn i’n tŷ ni cyn i’r broses fidio ddod i rym ac felly doedd gennym ni ddim dewis am y tŷ.

Mae gennym rywfaint o broblemau gyda’n cymdogion. Roeddwn i dan fygythiad.

Dylwn fod wedi cysylltu â’r heddlu, ond roeddwn mewn argyfwng gyda’m hiechyd meddwl fy hun ac yn awyddus i bopeth ddiflannu.

Felly, roedd angen help arnom i fynd ar y system fidio a bod ar y band cyngor cywir.  Roedd hynny’n waith caled.

Mae The Wallich wedi fy nghefnogi i gael popeth yn ei le.

Fe wnaethon nhw [The Wallich] fy helpu i feddwl pwy roeddwn i fod i’w ffonio, beth roeddwn i i fod i’w wneud, lle gallwn i ddod o hyd i wybodaeth a gyda phwy roedd angen i mi siarad.

Oherwydd nad oedd gennyf syniad beth yr oeddwn i fod i’w wneud yn y sefyllfa yr oeddem ynddi.

Roedd rhywfaint o’r gefnogaeth a oedd ei hangen arnaf yn golygu ceisio magu hunan hyder i eirioli drosof fy hun.

Os nad oes gennych chi’r hyder i siarad â’r cyngor, yna dydych chi ddim yn gallu symud ymlaen, felly maen nhw wir wedi fy helpu i eirioli drosof fy hun.

Rydw i’n cofio gwneud galwad ffôn pan oeddwn i yma.

Roedd yn help mawr i mi gael pobl o’m cwmpas, gan wybod bod Steph [Gweithiwr Cymorth The Wallich] yma pan oeddwn i’n siarad ar y ffôn, os oedd angen cymorth arna i.”

Magu hyder ym myd natur

“Dywedodd Steph, ‘Dylet ti ddod i yma’ [i’r rhandir].

Roedd yn anodd imi fynd ar y dechrau, oherwydd fy mod yn ei chael yn anodd gadael y tŷ.

Y tro cyntaf i mi ddod i’r rhandir roedd tua saith o bobl yma, a doedd Steph ddim yn meddwl y byddwn i’n dod yn ôl. Ond fe wnes i.

Pan fydda i’n aros yn y tŷ am gyfnod, mae’n mynd yn anoddach ac yn anoddach i mi adael. Ond mi ddois i’n ôl.

Gan ddibynnu ar sut mae pethau gartref, rydw i’n dod yma’n aml.

Weithiau mae angen hwb arna i, ond dydy hynny ddim oherwydd unrhyw beth yma – oherwydd yr hyn sy’n digwydd yn fy mywyd.

Pan fydda i yma, rydw i’n iawn ac yn falch fy mod i wedi dod. Dwi wir yn mwynhau bod yma.

Rydw i’n ei chael hi’n anodd bod o gwmpas pobl. Does gen i ddim ffrindiau y tu allan i’r fan yma. Fe alla i ymddangos yn eithaf lletchwith a digywilydd i bobl.

Ond yma, mae’n llawer haws cyd-dynnu â phobl oherwydd bod pawb yn wahanol ac yn fwy croesawgar. Mae yna lawer o bobl amrywiol.

Dywedais wrth Steph, ‘Rwy’n dy rybuddio; rwy’n lladd unrhyw blanhigion rwy’n dod ar eu traws!’. Ond rydw i’n ceisio cymryd rhan gymaint ag y galla i.

Mae’n dda dysgu a bydd yn braf gweld pethau’n tyfu. Felly, rwy’n edrych ymlaen at ddysgu.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am wasanaeth Cefnogaeth Hyblyg The Wallich a’r prosiect Lles.

*Ffugenw yw Lexii i ddiogelu hunaniaeth y cleient

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig