Mae wedi bod yn gweithio gyda’n gweithwyr cymorth arbenigol, ein Hyfforddwr Asedau mae wedi cymryd rhan yn ein prosiectau celfyddydau creadigol i ddelio â’i drawma a’i ddibyniaeth.
“Treuliais lawer o amser yn y carchar. Roeddwn i’n defnyddio cyffuriau bob dydd ac yn cyflawni troseddau i dalu amdanyn nhw.
Roedd mam yn dda iawn gyda mi, ond roedd fy mhroblemau yn gwneud ei bywyd yn uffern.
Roeddwn i’n teimlo nad oedd gen i unrhyw obaith na dyfodol.”
Cefais ddiagnosis o ADHD yn blentyn, ac achosodd hyn broblemau mawr i mi a fy nheulu (mam).”
“I hostel Dinas Fechan es i gyntaf, ond ychydig iawn o ddiddordeb oedd gen i mewn rhoi trefn ar bethau bryd hynny.
Yna, cefais fy anfon i hostel Tŷ Tom Jones ac fe wnes i barhau i ddefnyddio cyffuriau am ychydig fisoedd eto. Ond yna dechreuais gael cyswllt gyda fy merch, a phenderfynais fod angen i mi newid fy mywyd.
Fe wnaeth y staff fy annog i gymryd rhan mewn gwersi cerddoriaeth yn yr hostel. Roedd yn rhywbeth i mi edrych ymlaen ato, ac fe wnaeth fy helpu i sylweddoli pa mor bwysig yw cymryd rhan mewn gweithgareddau.
Fe wnaeth cerddoriaeth fy helpu i gymaint, ac fe wnaeth y staff fy nghefnogi i ysgrifennu cân am fy mywyd. Rhoddodd hynny bersbectif cwbl newydd i mi ar fy nyfodol.
Mae ffydd wedi dod yn rhan o fy mywyd hefyd. Fe wnes i gyfarfod â gweinidog a chael gwahoddiad i fynd i’r eglwys. Rhoddodd hyn bersbectif newydd arall i mi ar yr hyn oedd angen ei newid.”
“Rwyf yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gefais gan yr holl staff yn hostel Tŷ Tom.
Rwyf yn gobeithio eu bod yn gwybod pa mor ddylanwadol maen nhw wedi bod a faint o effaith maen nhw wedi’i chael arnaf. Mae Dean, fy ngweithiwr allweddol, wedi fy helpu’n aruthrol i gael trefn ar bethau drwy fy nghefnogi i gael therapi a mynychu grwpiau eraill sy’n parhau i fod yn gefn i mi wrth i mi wella.
Ar hyn o bryd, rwyf yn gweithio gyda phwyllgor cyffuriau i sbarduno newid o fewn gwasanaethau, gan gymryd rhan mewn cwrs sgiliau cyfrifiadurol i fagu hyder a dysgu sgiliau newydd. Rwyf hefyd yn gweithio gyda Cheryl (Hyfforddwr Asedau The Wallich), sy’n fy helpu i sicrhau fy mod yn dilyn y trywydd iawn.
Rwyf hefyd yn cymryd rhan ym Mhrosiect Stori Abertawe, ac rwyf yn gweld posibiliadau mawr yn deillio o hyn.”
“Mae Marc wedi gweithio’n galed iawn dros y 12 mis diwethaf i wneud newidiadau pwysig i’w ffordd o fyw.
Drwy gydol ei hyfforddiant, mae wedi gallu archwilio pa fath o berson mae’n dymuno bod y tu hwnt i brofiadau ei fywyd yn y gorffennol.”
– Cheryl, Hyfforddwr Asedau
“Hoffwn gael fy fflat fy hun a gallu cynnal fy nhenantiaeth a fy annibyniaeth.
Drwy fy ngwaith gyda Phrosiect Stori Abertawe, hoffwn adrodd fy stori drwy waith celf.
Hoffwn feithrin fy mherthynas gyda fy merch, a chreu perthynas ystyrlon fel fy mod i’n gallu ei helpu gyda’i heriau hi. Rwyf yn ceisio cael cyfryngiad fel fy mod i’n gallu cael cyswllt parhaus ac ystyrlon â hi.
Rwyf eisiau i mam fod yn falch ohonof, ac rwyf eisiau bod y mab gorau posibl. Hoffwn i allu ei chefnogi hi, yn hytrach na hi yn fy nghefnogi i.”
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi dangos lefelau rhagorol o atebolrwydd, hunanymwybyddiaeth, gostyngeiddrwydd a gwydnwch.
Mae’r cynnydd y mae Marc wedi’i wneud yn ysbrydoledig dros ben. Mae’n glod iddo’i hun, ac rwyf yn edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddo.”
– Dean, Uwch Weithiwr Cymorth