Stori Scott

04 Nov 2021

Roedd bod yn y carchar, dibynnu ar alcohol a delio â heriau iechyd meddwl cymhleth wedi dod yn rhywbeth arferol i Scott

Gyda help gan The Wallich, mae Scott nawr yn ceisio dygymod â’i fywyd bob dydd a sicrhau gwell dyfodol iddo’i hun.

Darllenwch ei stori

“Scott ydw i, rwy’n byw yn Llanelli. Rydw i wedi cael help gan The Wallich ers tua phedair blynedd.

Ges i help gan The Wallich oherwydd fy mod i mewn llety dros dro yn Llanelli ar ôl gadael carchar.

Rydw i wedi mewn a mas o’r carchar ers 2010. Dyma’r hiraf rwyf wedi bod mas o’r carchar, dros flwyddyn nawr.”

Dydw i erioed wedi bod i mewn am ddim byd difrifol.

Bron bob tro rydw i wedi bod yn y carchar roedd hynny am stwff i wneud gydag alcohol.”

Bywyd yn y carchar

“Roedd hi’n haws ymdopi yn y carchar nag ar y tu fas.

Byddwn i’n codi yn y bore ac yn cael sesiwn yn y gampfa, yna byddwn i bob amser yn cael dosbarth celf a dosbarth cerddoriaeth.

Roeddwn i’n teimlo bod gen i drefn well ac roeddwn i’n gallu ymdopi’n well o ddydd i ddydd.

Roedd gen i gell i mi fy hun. Felly, roedd gen i le i fynd nôl iddo ar fy mhen fy hun.”

Cefnogaeth gan The Wallich

“Rwy’n mynd i gerdded y ci gyda fy ngweithiwr cymorth, Andrew. Rydw i gyda Sarah ar ddydd Iau a gyda Holly a Laura ar ddydd Gwener.

Oni bai am y gefnogaeth rwy’n ei chael o ddydd Llun i ddydd Gwener, mae’n debyg y byddwn i’n cael lot mwy o drafferth gyda fy yfed.

Mae’r gweithiwr cymorth sydd gen i nawr yn dda iawn. Mae’n mynd allan o’i ffordd i’m helpu. Felly, rwy’n ddiolchgar.”

Dyfodol gobeithiol

“Rydw i eisiau ennill cymwysterau oherwydd does gen i ddim.

Rydw i’n hoffi hanes. Efallai byddai rhywbeth mewn archaeoleg yn dda i mi oherwydd byddwn i yn yr awyr agored. Neu weithio gydag anifeiliaid.

Mae angen i mi benderfynu oherwydd fi’n mynd yn ddim iau.

Roedd fy ngweithiwr cymorth yn adict tan roedd e f’oed i ac mae e wedi cael trefn ar ei fywyd.

Roedd e’r un oed â mi pan stopiodd gymryd heroin.

Felly mae’n gwneud i mi feddwl, chi’n gwybod, fod gen i amser i gael trefn arnaf fy hun.

Er, doedd ganddo ef ddim y cyflyrau meddyliol sydd gen i ac rwy’n meddwl mod i’n cael llawer o drafferthion oherwydd hynny.”

Dywedodd Andrew, Gweithwraig Tai yn Gyntaf:

“Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Scott ers tua chwe mis erbyn hyn.

Ar y dechrau, roedd Scott yn ei chael hi’n anodd iawn rheoli ei ymddygiad, ei iechyd meddwl a’i broblemau camddefnyddio sylweddau.

Er hyn, mae Scott bob amser wedi bod yn benderfynol ei fod eisiau cael trefn yn ôl ar ei fywyd.

Cael gweithio gydag ef a’i weld yn datblygu yw’r rhesymau rwy’n caru fy ngwaith gymaint.

Rhaid canmol ei benderfyniad i wneud yn dda a dim ond yr anawsterau difrifol sydd ganddo i’w brwydro, oherwydd ei iechyd meddwl, sy’n ei atal rhag cyflawni pethau gwych.

Rwy’n gobeithio y bydd yn dal i dyfu ac yn datblygu mecanweithiau ymdopi er mwyn iddo allu gwireddu ei nod o fyw bywyd hapus a chyflawn.”

Wrth siarad am blot rhandir The Wallich yn Llanelli, mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus, dywedodd Scott:

“Rwy’n dod lan yma i fynd mas o’r fflat a gweithio. Rwy’n mwynhau’r gwaith.”

Dywedodd Sarah, Uwch Weithiwr Cymorth:

textimgblock-img

“Rwy’n teimlo bod Scott yn mwynhau’r holl weithgareddau sy’n cael eu darparu gan Wasanaeth Lles Sir Gaerfyrddin.

Rydyn ni wedi bod yn gwneud gweithgareddau eraill fel beicio, cerdded a siopa.

Yn ddiweddar, mae mynd i’r rhandir wedi bod yn rhywbeth arall iddo ei wneud yn lle’r sylweddau weithiau.

Hefyd, mae hyn wedi ei helpu i gymysgu’n well â phobl eraill ac mae ganddo fwy o bwrpas a ffocws mewn bywyd.”

Dysgwch fwy am ein prosiectau yn Llanelli 

Os oes unrhyw rai o’r pynciau a drafodir yn yr astudiaeth achos hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Ewch i’n tudalen Cymorth a Chyngor i gael rhagor o wybodaeth.

Tudalennau cysylltiedig