Abertawe
SwanseaHousingFirst@thewallich.net
01792 345 037
Mae Tai yn Gyntaf Abertawe yn darparu cymorth tai i bobl 18 oed a hŷn sy’n profi digartrefedd neu’n cysgu allan
Mae tîm Tai yn Gyntaf Abertawe yn gweithio’n agos gyda’r cyngor a landlordiaid cymdeithasol i helpu pobl i symud yn syth i gartref parhaol, yn hytrach nag atebion dros dro fel hosteli.
Ar ôl cael eu cartrefu, mae tîm Tai yn Gyntaf Abertawe yn cynnig cymorth dwys, cofleidiol i’w helpu i ymgartrefu a chynnal eu cartref.
Mae Tai yn Gyntaf Abertawe yn canolbwyntio ar gryfderau pobl, ac nid eu problemau’n unig.
Mae’r cymorth yn hyblyg ac wedi’i ddatblygu o amgylch anghenion yr unigolyn, gan helpu gyda’r canlynol:
- Cyllidebu
- Budd-daliadau
- Cyflogaeth
- Lleihau Niwed
Mae’r tîm yn gweithio’n rhagweithiol gyda gwasanaethau eraill yn Abertawe i annog ymgysylltiad ag iechyd meddwl, cymorth o ran defnyddio sylweddau a llesiant.

Beth i’w ddisgwyl wrth Tai yn Gyntaf Abertawe
Mae ein ffordd o weithio yn dilyn egwyddorion craidd Tai yn Gyntaf:
- Yr hawl i gael cartref o ansawdd da
- Cefnogaeth hyblyg, hirdymor
- Gwahanu tai a chymorth
- Dewis, rheolaeth a gosod nodau
- Dulliau ymgysylltu gweithredol a lleihau niwed
- Ystyriol o gyflwr seicolegol, cynhwysol ac aml-asiantaeth

Pwy all gael mynediad at Tai yn Gyntaf Abertawe?
Mae darpar gleientiaid yn cael eu nodi drwy’r canlynol:
- Cofrestr Digartref Opsiynau Tai
- Cyfarfodydd Achosion Cymhleth
- MARAC (Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg)
- Asiantaethau eraill
Caiff pob atgyfeiriad ei drafod gydag Opsiynau Tai Abertawe cyn i gymorth gael ei gynnig.
Mae Tai yn Gyntaf Abertawe yn bartneriaeth rhwng The Wallich, Kaleidoscope a Chyngor Abertawe, gan gydweithio i ddod â digartrefedd i ben am byth.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Tai yn Gyntaf Abertawe, cysylltwch â ni.
