Codi arian mewn ffordd hyblyg: troi codi arian yn ddigidol yn ‘normal newydd’

Blog wedi'i ysgrifennu gan Sian Kinsey, Cydlynydd Codi Arian

25 Aug 2021

Dros y 18 mis diwethaf mae’r newid i godi arian dros y we wedi parhau i gyflymu. Mae llwyfannau fel Facebook, JustGiving, Instagram a GivePenny yn arwain y ffordd o ran dulliau codi arian arloesol dros y we.

Mae’n hawdd deall pam. Mae codi arian dros y we yn ffordd hawdd, hyblyg ac ystyrlon i gefnogi’r achosion sy’n bwysig i chi, a hynny heb symud cam o’r tŷ na’ch ardal leol.

Mae digwyddiadau ar y we yn fwy cynhwysol ac yn gallu cyrraedd pobl mewn lleoliadau anhygyrch yn ogystal â’r rheini sy’n gwarchod eu hunain neu mewn categorïau iechyd bregus.

Yma yn The Wallich, rydym yn ddiolchgar bod cynifer ohonoch wedi croesawu’r newid hwn ac yn parhau i ymgysylltu â ni dros y we.  O heriau cyfri camau a marathonau i gystadlaethau pobi a chyfansoddiadau cerddorol dros y we – mae ein cefnogwyr wedi mynd yr ail filltir drwy gydol yr argyfwng hwn.

Gyda’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio’n raddol yng Nghymru, mae’n hawdd meddwl y bydd pobl yn troi yn ôl at ddulliau mwy traddodiadol o godi arian ac yn symud oddi wrth y byd digidol.

Ond, mae astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan Enthuse yn dangos nad felly y mae, gyda 44% o’r cyhoedd yn parhau i ddewis cefnogi elusennau dros y we – cynnydd o 7% ers mis Mehefin diwethaf.

Ar ben hyn, mae llai o bobl yn cyfarfod yn y swyddfa ac yn mynychu lleoliadau cymunedol ac mae digwyddiadau cyfranogaeth dorfol eto i ddychwelyd yn llawn.   Mae’n amlwg fod codi arian dros y we, ar ba bynnag ffurf, wedi ennill ei blwyf. 2

Cael y gorau o’r ddau fyd

Mae’r byd codi arian wedi newid, ac rydym yn gweld mwy o ddigwyddiadau hybrid (cyfuniad o godi arian wyneb-yn-wyneb a dros y we) sy’n profi i fod yn boblogaidd iawn.

Mae’r rhain yn cyfuno cynwysoldeb digwyddiadau ar y we â’r rhwydweithio a’r profiadau cofiadwy sy’n dod yn sgil digwyddiadau go iawn.

Hefyd, mae digwyddiadau gwahanol yn addas i bobl wahanol:  os ydych chi wrth eich bodd yng nghwmni pobl ac yn ysu am ryngweithio wyneb-yn-wyneb, neu os ydych chi ychydig bach yn betrus ynghylch teithio a mynd i ddigwyddiadau mawr – mae rhywbeth ar gael sydd at ddant pawb.

Mae’r digwyddiadau hyn yn helpu i chwalu rhwystrau o ran ymgysylltu hefyd. Mae’r dyddiau pan oedd yn rhaid ichi deithio am oriau i gymryd rhan mewn ras neu ddigwyddiad yn y gwaith drosodd.

Mae’r rhwystrau i gymryd rhan mewn digwyddiadau rhedeg mawr hefyd wedi mynd – yn enwedig os dydych chi ddim yn rhedwr profiadol iawn.

Mae Zoom, Microsoft Teams, y twf yn yr heriau ar Facebook a thechnoleg arall wedi newid natur codi arian am byth ac wedi darparu ffordd newydd o ymgysylltu a chadw mewn cysylltiad â’n gilydd.

Ffyrdd o gymryd rhan

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gefnogi The Wallich dros y we:

Trefnu i godi arian ar eich pen-blwydd

textimgblock-img

Efallai eich bod yn cael dathliad pen-blwydd wyneb-yn-wyneb eleni. Felly beth am greu digwyddiad codi arian ar Facebook neu ryw lwyfan arall ar eich pen-blwydd?

Yr unig beth mae angen i chi ei wneud i ddechrau arni yw dewis achos – rydym wedi ein rhestru fel The Wallich – wedyn dewiswch darged ar gyfer eich digwyddiad codi arian ac ewch ati i rannu!

Sefydlu eich codwr arian ar Facebook

Trefnu eich her neu eich digwyddiad eich hun

textimgblock-img

Ydych chi’n bwriadu rhedeg marathon mewn mis? Wedi ymrwymo i gerdded/rhedeg milltir y dydd am wythnos? Seiclo 100k? Dringo Tri Chopa Cymru?

Beth am gael eich ffrindiau a’ch teulu i dderbyn yr her gyda chi – naill ai’n bersonol, neu dros y we yn eu ffordd eu hun e.e. defnyddio beic peloton, peiriant rhedeg neu gerdded o amgylch eu hardal leol.

Os ydych chi’n cynnal gig, gweithdy neu ddigwyddiad wyneb-yn-wyneb arall, beth am ehangu eich cynulleidfa drwy ffrydio eich digwyddiad yn fyw er mwyn i bobl allu dewis cymryd rhan neu ei wylio gartref ar y we.

Creu tudalen JustGiving

Ydych chi angen help i drefnu digwyddiad ar y we?

Cysylltwch â’n tîm.

Rydym wrth law i gynnig cymorth a chyngor ar godi arian ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau rydych chi’n bwriadu eu cynnal: dosomething@thewallich.net

Tudalennau cysylltiedig