Cefnogwyr Cerdded ar y Strydoedd yn mynd i’r afael â digartrefedd

07 May 2021

5,871,825 o gamau a £4,338 yn ddiweddarach, mae ein cefnogwyr anhygoel wedi cael mis Ebrill prysur diolch i Cerdded ar y Strydoedd.

Drwy gydol mis Ebrill, heriwyd ein cefnogwyr i fynd i gerdded, rhedeg, loncian neu hyd yn oed hopian eu ffordd i 7,500 o gamau’r dydd.

Y llynedd, cefnogwyd mwy na 7,500 o unigolion oedd naill ai mewn perygl o fod yn ddigartref yng Nghymru, neu sy’n ddigartref ar hyn o bryd. Roedd pob cam a gymerodd ein cefnogwyr yn cyfateb i un person a gefnogwyd allan o ddigartrefedd.

Nod her Cerdded ar y Strydoedd oedd nid yn unig codi arian hanfodol, ond rhoi hwb i les corfforol a meddyliol y rhai a gymerodd ran.

Mae mwy nag un cyfnod o gyfyngiadau symud a’r ffaith bod y cyfyngiadau’n newid yn barhaus wedi cael effaith sylweddol ar bawb, sy’n golygu bod yr her hon i’w chroesawu ac yn gyfle i bobl ganolbwyntio ar rywbeth cadarnhaol y gwanwyn hwn.

Penderfynodd 41 o bobl o bob rhan o Gymru fentro allan i gerdded, gan archwilio trysorau cudd mewn ardaloedd lleol a chrwydro mannau prydferth pan oedd y cyfyngiadau’n caniatáu hynny.

Gyda nod o £1,500, rhagorodd ein cefnogwyr ar y targed hwnnw, gan godi swm anhygoel o £5,519.50 rhyngddynt.

Gyda’i gilydd, teithiodd ein cefnogwyr 5,871,925 o gamau – sy’n cyfateb i gerdded o un pen i’r DU i’r llall, deirgwaith drosodd, neu ddringo i fyny ac i lawr Mynydd Kilimanjaro 83 o weithiau.

Dyma oedd gan y rhai a fu’n codi arian i’w ddweud

BRC Recruitment

“Yn BRC, rydym wedi bod wrth ein bodd yn cymryd rhan yn her Cerdded ar y Strydoedd.

Mae Sarah wedi codi mwy na £400 hyd yma ac wedi mwynhau cwblhau ei chamau.

Bu’n fis gwych, gydag wyth ohonom yn cymryd rhan a phob un ohonom yn cyrraedd ein targed dyddiol!”

Eleanor Watkins

“Rwyf wedi mwynhau’r her yn fawr. Mae mynd allan bob dydd i gwblhau’r camau wedi cael effaith gadarnhaol arna i, yn enwedig yn y tywydd braf.

Mae’n sicr wedi bod yn her cwblhau’r camau ambell ddiwrnod, ond ar ôl gorffen cerdded, rwy’n teimlo fy mod wedi cyflawni rhywbeth ac rwy’n bendant yn mynd i ddal ati i gerdded bob dydd pan fydd yr her yn dod i ben!”

Samantha, New Directions

“Mae’r mis yma wedi hedfan heibio – mae’n esgus gwych i fynd allan ac mae gwybod y bydd yr arian a godais yn helpu The Wallich i gynorthwyo pobl fregus yn golygu ei bod yn bleser gwirioneddol cymryd rhan yn her Cerdded ar y Strydoedd.”

Meddai Sian Kinsey, Cydlynydd Codi Arian:

“Roedd Cerdded ar y Strydoedd yn ddigwyddiad rhithwir newydd sbon i ni ac rydym mor ddiolchgar am  gefnogaeth a chyfranogiad ein cefnogwyr drwy gydol mis Ebrill.

Rydym yn falch iawn o’n cefnogwyr Cerdded ar y Strydoedd am eu holl ymdrechion i godi arian. Rydym wedi rhagori ar ein targed cyffredinol.

Roedd y digwyddiad hwn nid yn unig yn ymwneud â chodi arian a rhoi hwb cychwynnol i arferion cadarnhaol, ond roedd a wnelo hefyd â dod at ei gilydd fel cymuned fach i helpu mwy o bobl i gymryd camau oddi wrth ddigartrefedd am byth.”

Ar adeg pan fo cartref yn bwysicach na dim byd arall, diolch i bawb a gymerodd ran yn Cerdded ar y Strydoedd ar gyfer The Wallich.

Er bod her mis Ebrill ar ben, mae yna her newydd ym mis Mai.

Mynnwch ragor o wybodaeth am Run for Heroes 5k May.

Tudalennau cysylltiedig