Cofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth

Gwybodaeth ynghylch Rhodd Cymorth: gwneud i’ch rhodd fynd ymhellach byth

Helpwch i wneud i’ch rhodd fynd ymhellach byth drwy gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth heddiw

Beth yw Rhodd Cymorth?

Mae Rhodd Cymorth yn ffordd i elusennau hawlio’n ôl y dreth rydych chi wedi’i thalu ar y swm rydych chi’n ei roi.

Os ydych chi’n drethdalwr yn y Deyrnas Unedig, am bob £1 y byddwch chi’n ei rhoi i helpu pobl sy’n ddigartref, byddwn ni’n cael 25c ychwanegol yn ôl gan y llywodraeth – a does dim rhaid i chi dalu ceiniog yn ychwanegol.

Rhodd cymorth yn

Sut mae Rhodd Cymorth yn gweithio?

Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ffurflen isod, a bydd Rhodd Cymorth yn cael ei hawlio ar eich rhoddion i The Wallich yn y dyfodol, gyhyd ag rydych chi’n dymuno.

Gallwn hyd yn oed hawlio’r dreth ar y rhoddion rydych chi wedi’u cyfrannu yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Sut gall Rhodd Cymorth wneud gwahaniaeth

Yn 2020, roedd yr holl gyfraniadau ychwanegol o 25c wedi dod i gyfanswm o bron i £14,000 – digon i ddarparu dros 300 o sesiynau cwnsela i bobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl.

Os gwnewch chi un peth heddiw, treuliwch ychydig funudau yn ticio’r bocs a helpu i wneud i’ch rhoddion – sydd eisoes yn hael – fynd ymhellach.

Tudalennau cysylltiedig