Bydd gweithgareddau i ddifyrru, fel gweithdai celf, yn aml yn cael eu defnyddio i ymateb i drawma a gwella ar ei ôl.
Fel sefydliad sy’n wybodus o safbwynt seicolegol, rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym ddulliau sy’n seiliedig ar drawma o helpu pobl i wella a pharatoi ar gyfer eu dyfodol.
Dyma yn union y mae ein rhaglen celfyddydau creadigol yn ei wneud.
Rydym wedi datblygu cyfleoedd i bobl fod yn greadigol, fel ffordd o helpu i roi terfyn ar gylchoedd mynych o ddigartrefedd, dibyniaeth ac argyfwng iechyd meddwl.
Rydym yn nesáu at gam tri ein prosiect O’r Cyrion. Rydym am fyfyrio ar y prosiect hyd yma ac edrych ar y pethau anhygoel y mae defnyddwyr ein gwasanaethau wedi’u creu.
Yn 2021, aeth cam un ein prosiect Archwilio a Phrofi, a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn (O’r Cyrion), ati i archwilio effaith y celfyddydau gweledol ar ddefnyddwyr gwasanaethau The Wallich yn Aberystwyth, Abertawe a Maesteg.
Gyda chymorth gan ymarferydd creadigol lleol, rhoddodd y cyfranogwyr gynnig ar y canlynol:
Dechreuodd cam dau ym mis Mawrth 2022, gyda rhaglen 12 wythnos o sesiynau ysgrifennu creadigol, yn rhedeg ar yr un pryd yng Nghaerdydd, Llanelli ac ar-lein yng Ngogledd Cymru.
Bu’r dramodydd Owen Thomas yn gweithio gyda’n grŵp yng Nghaerdydd a chafodd ei ysbrydoli gan agwedd gadarnhaol ansigladwy’r cyfranogwyr yn y sesiynau.
Helpodd Owen ni i ysgrifennu’r ‘Monologau Bwlb Golau’, sef cyfres o bum monolog unigol yn adrodd straeon am adegau yn ein bywydau pan wnaethom sylweddoli ein bod am eu newid er gwell.
Hefyd, cynhaliodd Owen sesiynau wedi’u teilwra gyda chleientiaid o’n prosiect Shoreline, a rannodd bob math o straeon i ysbrydoli monolog Owen yn seiliedig ar ‘Life at Number 8.’
“Mae gallu ysgrifennu darn o waith sy’n sôn am fy man cychwyn wrth wella yn golygu popeth i mi. Bydd bob amser yn ddarn y byddaf yn troi ato i’m hatgoffa pan fyddaf yn wynebu cyfnodau tywyll.”
– Gareth, grŵp Caerdydd
“Helpodd Owen fi i fod yn ffyddiog bod yr hyn rwy’n ei ysgrifennu yn normal, a deall ei fod yn rhesymegol, yn greulon ond hefyd yn ddoniol. Erbyn hyn, rwyf wedi magu’r hyder i rannu fy straeon. Hwn oedd un o’r grwpiau mwyaf hyfryd, calonogol a grymusol rwyf wedi cymryd rhan ynddynt erioed.”
– Martine, grŵp Caerdydd
Yn Llanelli, bu Emily Laurens yn gweithio gyda Phrosiect Lles Sir Gaerfyrddin i gynnal
12 wythnos o sesiynau ysgrifennu creadigol ar ei safle rhandir hardd.
Arweiniodd Emily’r grŵp drwy’r canlynol:
Roedd y cyfan wedi’i gydblethu ag ymdeimlad cryf o le wedi’i ysbrydoli gan y rhandir a’n cysylltiad â’r twf a’r newid a welsom yno rhwng mis Mawrth a mis Mehefin.
Caiff Prosiect Lles Sir Gaerfyrddin ei gydgysylltu gan Stephanie Latham, ac roedd ei hymroddiad, ei chefnogaeth a’i hegni cadarnhaol diwyro yn allweddol i lwyddiant y prosiect hwn.
“Rwyf wedi darganfod fy mardd mewnol ac wedi gwylio eraill yn dod o hyd i’w rhai eu hunain. Mae pob un ohonom wedi darganfod cariad at ysgrifennu y gallwn ei berchenogi.”
– Steph, Uwch Weithiwr Cymorth, Prosiect Lles Sir Gaerfyrddin
“Mae bywyd wedi newid cymaint ers bron i dri mis, a hynny i gyd am fy mod wedi ymuno â’r grŵp hwn. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus nawr i gwrdd â phobl newydd, ac rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ymuno.”
– Gaynor, grŵp Llanelli
Yng Ngogledd Cymru, cynhaliodd Lis Parsons 11 o sesiynau ysgrifennu creadigol ar Zoom, yn ogystal ag un sesiwn wyneb yn wyneb yn y Rhyl.
Cymerodd un defnyddiwr gwasanaeth o Ogledd Cymru ran yn y prosiect hwn, gan ymroi’n frwd a mynychu pob sesiwn.
Gwnaethom ddechrau ar antur ysgrifennu sgript a arweiniodd at greu drama radio 45 munud: comedi ffuglen wyddonol sy’n seiliedig ar deithio mewn amser ac sy’n archwilio rolau rhywedd a’r chwyldro cymdeithasol rydym i gyd yn hynod falch ohono.
“Mae’n gwneud i mi deimlo’n llawn egni a gobaith. Roeddwn i’n arfer bod yn swil, ond rwy’n awyddus i gael sgyrsiau â phobl nawr. Mae pawb yn dweud fy mod i’n ferch hollol wahanol!”
– Kate, grŵp Gogledd Cymru
“Rwyf wedi sylwi ar newid enfawr yn Kate o ran ei hunanhyder a’i hunan-barch. Mae hi bellach yn gobeithio parhau i ysgrifennu, gan weithio gyda gweddill ei theulu i greu cofiant i’w Mam.”
– Jake, Uwch Weithiwr Cymorth
Ddydd Mawrth 28 Mehefin, daeth y tri grŵp ynghyd yn Llanelli ar gyfer digwyddiad rhannu ar y cyd.
Bu Grŵp Lles Sir Gaerfyrddin yn gweithio’n anhygoel o galed i baratoi’r safle rhandir ar gyfer y digwyddiad ond, yn anffodus, bu’n rhaid ei symud i leoliad dan do ar y funud olaf, diolch i’r glaw trwm.
Fodd bynnag, ni chawsom ein digalonni, a gwnaethom groesawu 20 o bobl i’r bwrdd rhannu.
Gwnaeth pob un ohonom ddarllen ein hoff ddarnau o waith ysgrifenedig o’r 12 wythnos diwethaf, gan gynnwys
Hefyd, cawsom gyfle i fwynhau dwy gân a ysgrifennwyd yn ystod sesiynau celf Derwen Newydd diolch i’r ymarferydd creadigol o gam un, Bill Taylor-Beales.
Mae cynlluniau ar y gweill i roi’r corff ysbrydoledig hwn o waith ar gof a chadw ar ffurf recordiadau fideo, casgliad o gerddi y gellir ei argraffu a’i rannu a chynhyrchiad o ‘A Real Man In Sector 9’.
Ar ôl saib byr, byddwn yn symud ymlaen i drydydd cam O’r Cyrion, sef y cam olaf, ac mae’r broses o recriwtio tri ymarferydd cyfryngau creadigol wrthi’n mynd rhagddi.