Ewyllysiau Am Ddim – allwch chi ddim eu rhoi i ffwrdd…

19 Feb 2020

Post gan Michael Cowley, Uwch Reolwr Codi Arian a Phartneriaethau

Yn ddiweddar daliwyd fy sylw gan ystadegau – dyma oedd y pennawd yn ei ddweud, ‘Cancer Research tops legacy charity donations while homelessness suffers’.

Pan ryddhawyd yr erthygl, roedd digartrefedd ar draws y DU wedi codi am saith mlynedd yn olynol. Yng Nghymru, roedd cysgu ar y stryd wedi dod yn argyfwng cenedlaethol – cynnydd o 45% mewn dim ond tair blynedd rhwng 2015 a 2018.

Mae’r galw am ein gwasanaethau wedi bod yn fwy nag erioed, a gyda digartrefedd mor weladwy ar draws ein trefi a’n dinasoedd mawr, roedd yn syndod gweld bod digartrefedd yn derbyn y lleiaf o gefnogaeth pan ddaw’n fater o roddion mewn ewyllys.

Mae digartrefedd ar waelod y rhestr rhoddion mewn ewyllys

Mae rhoi, o unrhyw fath, yn hynod o bersonol. Fodd bynnag, gan fod digartrefedd yn fater amserol iawn, gyda galw mawr am gymorth, yr oedd yn ein synnu bod digartrefedd wedi parhau’n flaenoriaeth isel i rai sy’n gwneud rhodd mewn ewyllys.

Cafodd ein mis hyrwyddo ‘Ewyllysiau Wallich’ cyntaf ym mis Medi 2018 gychwyn araf ac roeddem yn cael trafferth cael yr effaith yr oeddwn wedi’i rhagweld.

Fel y mae teitl y blog yn awgrymu, buom yn gweithio gyda chyfreithwyr partner i gynnig gwasanaeth Ewyllys, yn rhad ac am ddim, yn y gobaith y byddent yn ystyried gadael rhodd i’r Wallich – ond nifer fach a fanteisiodd arno.

Ar ôl gweithio mewn sectorau elusennol eraill, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut y gall rhoddion mewn ewyllysiau wneud gwahaniaeth parhaol i achosion sy’n helpu pobl fregus – yn ôl yr amcangyfrif, £3.4 bn yn y DU y llynedd.

Ond i ni, yma yn y Wallich, o’i gymharu nid yw digartrefedd a rhoddion mewn ewyllysiau wedi mynd law yn llaw yn naturiol..

Mae nifer cynyddol yng Nghymru’n gadael rhodd

Yng Nghymru, mae twf cyflym yn y bobl haelionus sy’n gadael rhodd yn eu Hewyllys – mwy nag mewn unrhyw ardal arall o’r Deyrnas Unedig. Cynyddodd incwm drwy roddion, a roddwyd gan bobl Cymru, 35% rhwng 2007 a 2017.

Yn ffodus, dechreuodd ein hymgyrch Ewyllysiau am Ddim ddod yn fwy poblogaidd yn hwyr yn y broses. Addawodd chwech o bobl adael rhoddion anhygoel gwerth tua £110,000.

Er ei bod yn teimlo fel ymdrech ar y pryd, yr oedd yn rhaid i mi gofio, o dan yr amgylchiadau presennol, fod y chwe chefnogwr anhygoel yma wedi gwneud penderfyniad a allai, gyda’i gilydd, dalu am flwyddyn gyfan o’n rhaglen Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy.

Gallai rhoddion gan chwe chefnogwr yn unig helpu tua 40 o bobl i gynyddu eu hyder a’u sgiliau, sicrhau swydd ystyrlon a chael ail gyfle. Ac onid yw hynny’n swnio fel rhodd arbennig i’w gadael.

Gall un penderfyniad bach, nad yw’n costio dim heddiw, arwain at ddyfodol llawer mwy disglair a gadael gwaddol parhaol.

Unwaith eto, rydym yn gweithio gyda chyfreithwyr partner ledled Cymru. Ym mis Chwefror 2020, os ydych dros 50 oed, gallwch wneud addewid i gefnogi pobl sy’n ddigartref trwy adael rhodd yn eich Ewyllys.

Pam gadael Ewyllys o gwbl?

Er y gall fod yn bwnc sensitif, gall fod yn hynod o ymarferol. Cefais sgwrs â chefnogwr yn ddiweddar a ddywedodd wrthyf, yn hollol blaen, ei bod am wneud ei Hewyllys i atal y Llywodraeth rhag gwario ei harian ar rywbeth na fyddai’n cytuno ag ef efallai.

Waeth beth yw eich cymhellion neu’ch teimladau gwleidyddol, mae’r teimlad yn pwysleisio pwysigrwydd cael rheolaeth dros yr hyn yr ydych yn ei adael ar ôl. Ysgrifennu Ewyllys yw eich ffordd chi o roi gwybod i bobl sut rydych chi am gael eich cofio pan fyddwch chi wedi mynd.

Mae Rhoddion mewn Ewyllysiau hefyd yn ffordd arbennig iawn o roi a gallant gael effaith wirioneddol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar symiau penodol, gall hefyd fod yn ddefnyddiol meddwl am ganran fach. Unwaith y byddwch chi wedi gofalu am eich anwyliaid, gall canran fach ar ôl i elusen ychwanegu at swm sylweddol o arian.

Yn erbyn cefndir o ansicrwydd economaidd-gymdeithasol, mae gadael rhodd yn eich Ewyllys yn ffordd wych o wneud addewid i gefnogi dyfodol yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mis Ewyllysiau Am Ddim – Chwefror 2020

Os hoffech chi wneud addewid i gefnogi dyfodol pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned, cysylltwch â ni ar 029 2066 0469 i gael sgwrs anffurfiol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i’n tudalen ‘Legacies’.

Tudalennau cysylltiedig