I gael cymorth i bobl ifanc yn Llanelli, gallwch gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin neu Grŵp POBL.
I gael rhagor o fanylion neu i drafod partneriaethau yn y rhanbarth, cysylltwch â’n Rheolwr Ardal yn Sir Gaerfyrddin.
â chymorth amrywiol gan gynnwys cyfryngu teuluol, cymorth i hawlio budd-daliadau a chyngor ar gyflogaeth a hyfforddiant.
Mae’r bobl ifanc yn byw mewn fflatiau annibynnol, â chymorth 24 awr gan staff, lle gallant ddatblygu’r sgiliau y bydd arnynt eu hangen i fyw’n annibynnol.
Mae’r prosiect yn galluogi ac yn grymuso pobl ifanc ddigartref i gyflawni eu dyheadau personol a phroffesiynol drwy weithgareddau sy’n gwella sgiliau, meithrin hyder, datblygu annibyniaeth a galluogi cynhwysiant a chyfraniad i’r gymuned ehangach.
Mae’r staff yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu hunan-dyb a hyder i’w helpu i deimlo y gallant ddygymod â heriau byw’n annibynnol.
Mae yna hefyd dîm arbenigol wedi’i leoli yng Nghlos Sant Paul sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion cymorth cymhleth iawn.
Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Clos Sant Paul, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.