Llety i Bobl Ifanc – Clos Sant Paul

Clos Sant Paul, Llanelli SA15 1GZ

Wrth i amser symud ymlaen, rydym ninnau hefyd yn symud ymlaen. Mae Clos Sant Paul wedi cau erbyn hyn.

Mae Tyisha yn Llanelli yn mynd drwy gyfnod adfywio. Mae rhan o hyn yn golygu, yn anffodus, nad yw The Wallich bellach yn rhedeg llety Clos Sant Paul ar gyfer pobl ifanc.

Rydyn ni’n dal i redeg gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys:

I gael cymorth i bobl ifanc yn Llanelli, gallwch gysylltu â Chyngor Sir Caerfyrddin neu Grŵp POBL.

I gael rhagor o fanylion neu i drafod partneriaethau yn y rhanbarth, cysylltwch â’n Rheolwr Ardal yn Sir Gaerfyrddin.


Mae Clos Sant Paul yn darparu cartref diogel, sefydlog, dros dro i bobl ifanc ddigartref  (16 – 25 oed)

â chymorth amrywiol gan gynnwys cyfryngu teuluol, cymorth i hawlio budd-daliadau a chyngor ar gyflogaeth a hyfforddiant.

Mae’r bobl ifanc yn byw mewn fflatiau annibynnol, â chymorth 24 awr gan staff, lle gallant ddatblygu’r sgiliau y bydd arnynt eu hangen i fyw’n annibynnol.

Mae’r prosiect yn galluogi ac yn grymuso pobl ifanc ddigartref i gyflawni eu dyheadau personol a phroffesiynol drwy weithgareddau sy’n gwella sgiliau, meithrin hyder, datblygu annibyniaeth a galluogi cynhwysiant a chyfraniad i’r gymuned ehangach.

Mae’r staff yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu hunan-dyb a hyder i’w helpu i deimlo y gallant ddygymod â heriau byw’n annibynnol.

Mae yna hefyd dîm arbenigol wedi’i leoli yng Nghlos Sant Paul sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc sydd ag anghenion cymorth cymhleth iawn.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, fel Clos Sant Paul, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.