9 Stryd y Gorfforaeth

9 Corporation Street, Aberystwyth, SY23 2BT

Ceredigion

01970 612 736

Llety â chymorth i unigolion digartref sydd ag anghenion cymhleth yw 9 Stryd y Gorfforaeth

Stryd y Gorfforaeth

Rydym yn darparu cymorth preswyl i unigolion sydd ag anghenion cymorth cymhleth ac amrywiol, gan gynnwys:

Rydym yn helpu’r preswylwyr i gael mwy o reolaeth dros y materion sy’n effeithio ar eu bywydau, dod i ddeall y materion hyn yn well a gwneud rhywbeth ynglŷn â nhw er mwyn symud tuag at yr annibyniaeth sydd ei angen er mwyn cael eu llety eu hunain a’i reoli.

Rydym yn helpu’r preswylwyr â phethau fel

Rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos iawn â nifer o asiantaethau sy’n bartneriaid, gan gynnwys adran dai yr awdurdod lleol, y gwasanaeth prawf, Tîm Rheoli Troseddwyr Integredig yr heddlu, Drugaid, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed a gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol.

Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig