Helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig yng Nghastell-nedd Port Talbot
Beth am fod yn Gyfaill Gwirfoddol a rhoi o’ch amser, a gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.
Pam fod Cyfeillio yn bwysig?
Mae unigrwydd a theimlo’n ynysig yn cael effaith enfawr ar iechyd corfforol a meddyliol llawer o bobl sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae The Wallich yn cefnogi pobl sy’n cysgu allan ac yn rhoi llety iddyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld mwy o bobl angen help gyda materion eraill yn ymwneud â llesiant yn eu cartrefi eu hunain.
Mae Cyfeillion Gwirfoddol yn cynnig cymorth ychwanegol i ddefnyddwyr ein gwasanaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan eu helpu i deimlo mwy o gysylltiad â’u cymuned ac yn llai ynysig.
Mae Cyfeillion Gwirfoddol yno i ganmol staff cymorth The Wallich, nid eu disodli, ac maen nhw yno i ddarparu cwmnïaeth.
Beth mae Cyfaill Gwirfoddol yn ei wneud?
- Meithrin hyder pobl a’u hannog nhw
- Treulio amser gyda rhywun a rhoi cyswllt cymdeithasol iddyn nhw
- Helpu i ddatblygu eu sgiliau presennol, yn ogystal â datblygu sgiliau newydd a nodau ar gyfer y dyfodol
- Mynychu grwpiau cymunedol lleol gyda’ch gilydd
- Datblygu perthynas llawn ymddiriedaeth drwy roi eich amser i rywun
- Helpu iechyd a llesiant
- Rhannu sgiliau sylfaenol – fel cynllunio, cyllidebu, cyfathrebu a TG
- Cynnig cwmnïaeth, gwrando’n astud a sgwrsio
Fel Cyfaill Gwirfoddol, byddwch yn:
- Mynychu sesiwn gynefino
- Ymrwymo i hyfforddiant undydd
- Ymrwymo i 4 diwrnod o wirfoddoli y mis
Yr hyfforddiant a’r cymorth y byddwch yn ei gael:
- Tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Cymorth rheolaidd gan Gydlynydd Cyfeillio Gwirfoddol The Wallich
- Hyfforddiant ar Ffiniau Proffesiynol, Diogelu a Diogelwch Personol
- Cyflwyniad i Amgylcheddau sy’n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE) a Gofal a Oleuir gan Drawma (TIC)
Manteision dod yn Gyfaill Gwirfoddol
- Ad-dalu costau teithio
- Meithrin cysylltiadau a chwmnïaeth newydd yn eich cymuned
- Rhannu sgiliau a dysgu pethau newydd
- Datblygu eich sgiliau a’ch profiad ar gyfer eich CV
- Mynediad at gyfleoedd hyfforddi
- Ennill profiad o weithio gyda phobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd neu anghenion sy’n gysylltiedig â thai
- Balchder a theimlo’n dda eich bod yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned
Rydyn ni’n cymryd barn ein Cyfeillion Gwirfoddol a’n defnyddwyr gwasanaeth o ddifrif, felly os nad ydych chi’n teimlo bod y rôl yn addas i chi, gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pawb yn gyfforddus.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gyfaill Gwirfoddol?
Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Cydlynydd Cyfeillio Gwirfoddol – Debbie.Allison@thewallich.net
Ariennir gan Grant Cymorth Tai Castell-nedd Port Talbot