Hostel St John’s House

Chester Road, Wrecsam LL12 7AX

Wrecsam

01978 355 155

Mae Hostel St John’s yn cynnig llety diogel dros dro i bobl sy’n ddigartref yn Wrecsam

St Johns

Mae St John’s yn cynnig chwe gwely i bobl ddigartref yn Wrecsam. 

Yno, mae gan breswylwyr eu hystafell wely eu hunain, a chyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi sy’n cael eu rhannu. 

Yn yr hostel, mae gardd gyda seddi yn yr awyr agored. Gall preswylwyr ymlacio y tu allan, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau garddio. 

Mae ystafell meddwlgarwch ar gael i breswylwyr ei defnyddio i ymlacio.  

Mae ystafell ar gael ar gyfer cyfarfodydd preifat gyda gwasanaethau cymorth allanol mewn amgylchedd tawel a chyfeillgar.  

Er mwyn cefnogi pob preswylydd drwy gydol ei daith, mae pob un yn cael Gweithiwr Cefnogi. 

textimgblock-img

Mae gan Hostel St John’s staff cefnogi ar y safle, 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. 

Mae unrhyw un dros 18 oed, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n ddigartef ar hyn o bryd, yn gymwys i gael eu hatgyfeirio i Hostel St John’s. 

Yn yr hostel, mae cymysgedd o breswylwyr a chydbwysedd rhwng y rhywiau. 

Mae croeso hefyd i anifeiliaid anwes symud i mewn i’r hostel. 

Mae Hostel St John’s wedi hen ennill ei blwyf yn Wrecsam ac mae wedi helpu pobl sydd wedi bod yn ddigartref ers blynyddoedd lawer. 

Mae dros 100 o bobl wedi galw Hostel St John’s yn gartref, ac mae llawer wedi symud ymlaen i fyw’n annibynnol erbyn hyn.

Mae gweithgareddau rheolaidd yn cael eu cynnal gan y staff er mwyn i’r preswylwyr allu cymryd rhan ynddynt. 

textimgblock-img

Ceir nifer o weithgareddau megis cwisiau thematig a chystadlaethau tyfu blodau’r haul, i ddiwrnodau allan yn canŵio, gwersylla a dringo mynyddoedd Cymru, sy’n digwydd yn rheolaidd. 

Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu i roi hwb i hunanhyder, meithrin perthynas â phreswylwyr eraill a galluogi preswylwyr i fod yn fentrus, mewn amgylchedd diogel a rheoledig.

Mae gweithwyr cefnogi yn helpu preswylwyr i wneud y canlynol:

Mae’r Wallich yn credu bod anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol gan unigolion sy’n ddigartref ac mewn risg.

Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.

St Johns

Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol  o drawma, a chynnig y cymorth sy’n addas iddyn nhw yn y ffordd orau bosib.

Wrth i ni feithrin ein perthynas â’r preswylwyr rydyn ni’n eu cefnogi, maen nhw’n teimlo’n ddiogel i rannu mwy am eu straeon.  

Mae gan The Wallich wasanaeth cwnsela, o’r enw Y Rhwydwaith Myfyrio, y gall preswylwyr ei ddefnyddio i fynd i’r afael â phroblemau a gwneud newid cadarnhaol tymor hir, gan sicrhau nad ydynt yn dychwelyd i ddigartrefedd. 

Daw’r holl atgyfeiriadau i Hostel St John’s yn uniongyrchol gan y tîm digartrefedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Beth mae ein staff yn ei ddweud

“Mae The Wallich yn elusen anhygoel i weithio iddi. Mae’r hyfforddiant yn un heb ei hail ac mae’n wych cael bod yn rhan o dîm sydd i gyd yn ceisio helpu a chefnogi preswylwyr.”

Aelod o staff St John’s, The Wallich 

“Ers gweithio i The Wallich, rydw i wedi datblygu sgiliau sydd wedi fy helpu i roi cymorth i bobl eraill yn well, a dyna pam rydw i yn y swydd rydw i ynddi. Allwn i ddim meddwl am le gwell i wneud hynny nag yma.”

Aelod o staff St John’s, The Wallich 

“Rydw i wrth fy modd yn gweithio i The Wallich gan fod eu gwerthoedd yr un fath â fy ngwerthoedd i. Maen nhw bob amser yn awyddus i wella a datblygu i’n helpu ni, i roi cymorth i eraill yn well.”

– Aelod o staff St John’s The Wallich

Pobl sydd wedi byw yn Hostel St John’s

“Rydw i mor falch o ddod yma. Mae fy ystafell yn edrych yn wych ac mae’r holl bethau eraill hefyd, fel y gegin a’r ystafelloedd teledu, staff 24/7 i siarad â nhw, alla i ddim aros i symud i mewn yn nes ymlaen.”

– Un o drigolion newydd Hostel St John’s 

“Rydych chi fel teulu i mi. Rydych chi’n gofalu amdanaf, rydych chi’n mynd i fy rhoi i’n ôl ar y trywydd iawn.”

– Un o drigolion St John’s yn siarad â staff cymorth

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.

Tudalennau cysylltiedig