Wrecsam
St.johns@thewallich.net
01979 355155
Mae Richmond House yn cynnig 12 gwely i bobl sy’n ddigartref.
Mae gan breswylwyr eu hystafell wely eu hunain, a chyfleusterau cegin ac ystafell ymolchi sy’n cael eu rhannu.
Mae nifer o lolfeydd teledu ac ystafell weithgareddau er mwyn sicrhau bod gan breswylwyr le i gael adloniant a lle i ymlacio.
Er mwyn cefnogi pob preswylydd drwy gydol ei daith, mae pob un yn cael Gweithiwr Cefnogi.
Mae Richmond House yn cynnig llety byw â chymorth, 24 awr y dydd.
Mae’r tŷ ar gyfer pobl sydd wedi profi digartrefedd a nifer o anghenion sy’n gorgyffwrdd.
Rydyn ni’n teilwra’r cymorth i’r unigolyn a’i anghenion ef neu hi, gan ddiwallu’r anghenion lle bynnag maen nhw, a chymryd camau tuag at nod mae eisiau ei gyrraedd.
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd â’r awdurdod lleol a gwasanaethau lleol, fel Hafan Wen ac uned iechyd meddwl Tŷ Derbyn, i helpu trigolion gyda’u hanghenion.
Mae’r tîm yn Richmond House yn cynnwys saith Uwch Weithiwr Cefnogi arbenigol a Gweithwyr Cefnogi dros Nos.
Gall ein preswylwyr ymgysylltu â gwasanaethau amrywiol yn The Wallich, gan gynnwys Y Rhwydwaith Myfyrio, prosiectau llesiant ac ymgysylltu i’w cefnogi 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r Wallich yn credu bod anghenion cymorth gwahanol ac amrywiol gan unigolion sy’n ddigartref ac mewn risg.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) eu helpu i wella.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n ystyriol o drawma, a chynnig y cymorth sy’n addas iddyn nhw yn y ffordd orau bosib.
Daw atgyfeiriadau i Richmond House yn uniongyrchol gan y tîm digartrefedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.
“Gall fod yn anodd iawn gweld pobl yn dioddef, ond gydag amser, empathi a’n cefnogaeth ni, mae’n anhygoel gweld pobl yn gweddnewid pethau. Mae’n gwneud y swydd yn werth chweil ac yn gwneud i mi deimlo’n ffyddiog y gall unrhyw un newid.”
– Aelod o staff The Wallich Richmond House
“Mae gweithio i The Wallich yn wych. Mae hi’n elusen hynod garedig i weithio iddi ac mae’n rhoi’r adnoddau i ni ddatblygu yn ein swyddi.”
– Aelod o staff The Wallich Richmond House
“Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i’n mynd i ganŵio, ond roedd o’r diwrnod gorau erioed.”
– Un o breswylwyr Richmond House
“Roeddwn i eisiau diolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud, ac am fy nghefnogi i drwy amseroedd anodd pan mae fy iechyd meddwl yn wael. Mae dod i siarad â staff wedi fy nghadw i rhag gwneud dewisiadau drwg.”
– Un o breswylwyr Richmond House
“Rydw i mor falch pan fydd cŵn yn yr hostel, maen nhw’n dod â theimlad mor braf i mi, teimlad diogel yn fy nghalon.”
– Un o breswylwyr Richmond House
“Gallaf ddod i’ch gweld bob amser a bod yn onest gyda chi.”
– Un o breswylwyr Richmond House