Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol CGGC

06 May 2021

Pan oedd argyfwng y Coronafeirws ar ei anterth, hwylusodd CGGC gronfa hollbwysig i bobl oedd angen cymorth.

Y grant

Sefydlwyd cronfa Llywodraeth Cymru i gael cyllid i’r bobl oedd ei angen fwyaf.

Diben y gronfa oedd galluogi sefydliadau sy’n darparu cymorth hanfodol i grwpiau fel pobl ar eu pennau eu hunain, pobl oedrannus, gofalwyr a phobl oedd yn ei chael yn anodd cael gafael ar fwyd, er mwyn gallu cynnig cymorth iddynt yn ystod y cyfnod hwn.

Cefnogodd Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF) CGGC The Wallich gyda grant o £91,278.35 i helpu i ddarparu gwasanaethau digartrefedd.

Sut y bu’r gronfa o gymorth yn ystod COVID-19

Gyda chymorth y gronfa argyfwng, rydym wedi gallu darparu cymorth mewn modd ymatebol i bobl yn ystod y pandemig.

Cadw pobl yn ddiogel

Roeddem yn gallu cynnal gwasanaethau digartrefedd rheng flaen hanfodol drwy gydol y pandemig, gan ddarparu cymorth a chadw mwy na 4,723 o bobl yn ddiogel.

textimgblock-img

Darparwyd mwy na 200,000 o eitemau o gyfarpar diogelu personol i’n 350 o staff rheng flaen i gyfyngu ar drosglwyddo COVID-19 o fewn ein prosiectau.

Drwy gydol y pandemig rydym wedi parhau i fonitro ein defnydd a’n stoc o gyfarpar diogelu personol ar draws ein prosiectau, sy’n cael eu rheoli gan dri hyb rhanbarthol.

Yn The Wallich, aethom ati i addasu  amgylcheddau ein prosiectau er mwyn hwyluso’r gwaith o ailagor 68 gwasanaeth yn ddiogel ledled Cymru.

Sicrhau nad oedd pobl yn mynd heb fwyd

Roedd tîm ymroddedig o 14 o wirfoddolwyr a staff yn paratoi ac yn darparu 3,458 o brydau bwyd i 184 o bobl mewn llety dros dro ledled de Cymru.

textimgblock-img

Hefyd sicrhawyd bod bwyd ar gael i fwy na 1,000 o bobl yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud ac unigrwydd ac yn ystod cyfnod y Nadolig.

Gyda COVID-19 a chyfyngiadau cysylltiedig yn dal yn eu lle yn ystod y Nadolig, roeddem yn rhagweld y byddai nifer uwch o gleientiaid – a fyddai fel arfer yn teithio i ymweld â ffrindiau a theulu – yn aros yn eu llety.

Felly, sicrhawyd bod prydau bwyd yn cael eu darparu a’u bod ar gael i’n cleientiaid yn ein prosiectau preswyl.

Hefyd paratowyd a dosbarthwyd parseli bwyd i gleientiaid oedd yn byw’n annibynnol ac ar incwm isel.

Ymateb i anghenion iechyd meddwl

Mae COVID-19 ac effeithiau parhaus mesurau cadw pellter cymdeithasol ac unigrwydd wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl y bobl rydym yn eu cefnogi.

Bu galw mawr iawn ar y Rhwydwaith Myfyrio, ein gwasanaeth cwnsela therapiwtig, yn ystod y pandemig. Ym mis Ionawr 2021, roedd gennym restr aros o 52 o gleientiaid yr oedd angen cwnsela arnynt.

Gyda chefnogaeth Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol CGGC, bu modd i ni ddarparu 54 o sesiynau cwnsela ychwanegol drwy ein rhwydwaith presennol, gan leihau’r

rhestr aros a helpu pobl i gael cymorth heb oedi diangen.

Mynd i’r afael ag allgau digidol

Helpodd y gronfa argyfwng ni i ddarparu gliniaduron a thabledi i fynd i’r afael ag allgau digidol.

Roedd angen dybryd am offer ar ein defnyddwyr gwasanaeth i gadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau a pharhau i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth a chyfranogiad ar-lein.

Ein strategaeth

Yn gynnar yn y pandemig, sefydlwyd pum nod cyffredinol:

  1. Cadw pobl yn ddiogel.
  2. Atal trosglwyddo COVID-19 o fewn cymunedau The Wallich.
  3. Tawelu meddyliau ein staff a’n cleientiaid.
  4. Cadw ein gwasanaethau hanfodol i fynd, addasu ac ymateb yn ôl yr angen fel bod y grwpiau mwyaf agored i niwed yn parhau i dderbyn cymorth.
  5. Adfer ein holl brosiectau a gwasanaethau yn unol â newidiadau i’r cyfyngiadau symud.

Bu Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol CGGC yn allweddol wrth gadw’n driw i’n nodau a diolchwn iddynt am eu cefnogaeth.

Tudalennau cysylltiedig